Neidio i'r cynnwys

Fy Mhererindod Ysbrydol/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Fy Mhererindod Ysbrydol Fy Mhererindod Ysbrydol

gan Evan Keri Evans

Pennod I

RHAGAIR

NID yn aml y bydd hynafgwr a fyddo'n dipyn o lenor heb gais oddi wrth rywrai o genhedlaeth ddiweddarach am benodau o'i atgofion. Ni ddihengais innau: crefai un cyfaill hoff am wybod hanes beirdd dyffryn Teifi pan oeddwn yn llanc, tra teimlai un arall, gŵr gradd, fwy o ddiddordeb yn fy ffrindiau ac athrawon coleg. Ni pheidiais â rhoddi ystyriaeth i'r ceisiadau hyn, ond ni theimlwn mwyach ddigon o ddiddordeb ynddynt, ac ni phrisiwn eu gwerth yn ddigon uchel, i eistedd i lawr i ysgrifennu fy atgofion amdanynt. Eithr cododd i fyny i'm sylw, fel y Wyddfa uwchlaw'r bryniau, fy mhrofiad crefyddol mewn cyfnod diweddarach fel peth y gallai disgrifiad ohono fod o fudd i genhedlaeth o bregethwyr heb brofiad pendant, ond a dreuliant eu hyni i "ddyrnu gwellt" hen athrawiaethau neu haniaethau newydd difywyd. Gwyddwn i rywbeth o leiaf, am brofiad diriaethol o'r bywyd ysbrydol, a'm bwriad cyntaf oedd rhoddi fy hanes fel y'i ceir o bennod vi. ymlaen. Eithr wrth aros uwch ei ben a cheisio dod o hyd i'w ddechrau, gwelais na allwn ei wahanu oddi wrth fy mywyd blaenorol. Y pryd hwn y gwawriodd arnaf y gellid disgrifio cyfnodau fy mywyd fel ffurfiau ar ymchwil am y Prydferth, y Gwir, a'r Sanctaidd. Yn wir, er i mi athronyddu llawer ar ystyr bywyd, nid oeddwn wedi taflu golwg ar fy mywyd fy hun yn ei gyfanrwydd a cheisio'i gyfundrefnu. Fel hyn aeth y chwe phennod a fwriadwn yn ddeuddeg: gallasent fynd yn llawer mwy ped ymhelaethaswn yma a thraw. Eto, er tyfu o'r penodau dan fy nwylo, ni ddaeth i'm meddwl eu cyhoeddi yn llyfr hyd ar ôl eu hymddangosiad yn Y Dysgedydd, a derbyn ohonof dystiolaethau amrywiol i'r budd a ddaeth o'u darllen. Wedi hynny y mae llawer wedi ymbil arnaf eu cyhoeddi yn llyfr, a rhai y mae gennyf barch i'w barn yn dweud ei bod yn ddyletswydd arnaf. Yr wyf hefyd wedi derbyn awgrymiadau gwerthfawr gyda golwg ar ychwanegu at y cynnwys, a'i wneud yn llyfr sylweddol. Ond buasai hynny yn ei chwyddo'n ormodol, ac yn fy nghario allan o'r amcan ymarferol syml sydd gennyf fi mewn golwg. Ni allaf ond ychwanegu tri neu bedwar nodiad y gellir eu darllen yn y fan hon neu ynteu ar y diwedd.

Nid oedd gennyf un amcan llenyddol wrth ysgrifennu. Yr hyn a geisiwn oedd bod yn gywir, ac osgoi'r demtasiwn i orliwio. Credaf fy mod wedi llwyddo yn hyn. Diau na all iaith byth wneud tegwch â phrofiadau ysbrydol-nac unrhyw brofiad yn wir ond gall awgrymu teimladrwydd ansylweddol, a phan wna hynny, nid yw yn gywir.

Go brin y mae angen dweud na cheisiais ond dilyn prif linellau y patrwm o fywyd a wewyd yn fy hanes i. Y mae symudiadau y mil myrdd teimladau, siomedigaethau, amgylchiadau, y gweithiai ewyllys a delfryd ynddynt, yn bethau y mae'n rhaid eu gadael i ddychymyg a phrofiad y darllenydd.

Y mae wedi bod yn ffasiwn ymhlith diwinyddion sydd â'u tuedd i wneud gwirionedd a'u cyfundrefn hwy yn un, i gondemnio'r syniad o weithrediad Ysbryd Duw ar y system nerfol. Diwinyddion, meddaf, yn fwy na meddylegwyr, y rhai sydd fel rheol yn fwy gwylaidd yn eu damcaniaethau ynghylch perthynas ysbryd a chorff. Rhaid i Ysbryd Duw, fe ymddengys, gyfyngu ei weithrediad i diriogaeth syniadau haniaethol! Y mae eu safle yn sawru yn gryf o'r golygiad gnosticaidd am berthynas Duw â mater, a natur uwchraddol y deall. Ceisiais i ddisgrifio fy mhrofiad yn hollol syml heb dreio damcanu yn ei gylch. Yr hyn a wn yw mai symud yn nes i mewn at graidd rialiti a wneuthum wrth basio o fyd fy syniadau haniaethol i diriogaeth profiad diriaethol. Ni wn beth yw adweithiad y meddwl diwinyddol i'r esboniad gwyddonol diweddar ar natur mater.

Ar ôl peth petruster y cynhwysir pennod xi. yn y llyfr. Mor ddwfn ac ystyfnig yw ein rhesymoliaeth gynhenid fel y mae fy adweithiad cyntaf i ddisgrifiadau o'r fath yn un o amheuaeth. Dim ond fy ngwybodaeth uniongyrchol o'r ffeithiau ynghŷd â'r ffaith bellach i mi ysgrifennu'r hanes ymhen diwrnod neu ddau a hawlia iddo le ymysg profiadau'r daith. Gall ymddangos i rywai fod yna ddisgyniad amlwg o fyd iechydwriaeth enaid i iseldir iechyd corfforol. I'm tyb i, esgyn a wnawn pan ddygir y corff yn fwy dan lywodraeth yr ysbryd-y mae yr olaf yn ehangu ei lywodraeth. Fe gofiwn hefyd fod y cyfrinwyr yn cyfrif yr ystad o rodio ar y bannau (illuminative stage) yn llai perffaith na'r ystad o undod â rialiti diriaethol, ac yn iswasanaethgar iddi.

Rhoddir y darlun i gwrdd â dymuniad cyfeillion.

E. KERI EVANS.

Nodiadau[golygu]