Fy Nuw, pan lefais arnat ti

Oddi ar Wicidestun

Mae Fy Nuw, pan lefais arnat ti yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)

Fy Nuw, pan lefais arnat ti,
Y rhoddaist imi iechyd;
Cedwaist fy enaid rhag y bedd
A rhag diwedd anhyfryd.


Cenwch i'r Iôn, chwi ei holl saint,
A maint yw gwyrthiau'r Arglwydd;
Clodforwch hefyd ger ei fron,
Drwy gofion o'i sancteiddrwydd.


Am ennyd fechan saif ei ddig,
O gael ei fodd trig bywyd;
Heno brydnawn wylofain sydd,
Y boreu ddydd daw iechyd.