Fy enaid, bendithia yr Arglwydd

Oddi ar Wicidestun
Chwi weision Duw, molwch yr Iôn Fy enaid, bendithia yr Arglwydd

gan William Nantlais Williams (Nantlais)

Diolch i Ti, yr Hollalluog Dduw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

44[1] Emyn Diolch.
98. 98. D.

1. FY enaid, bendithia yr Arglwydd,
A chofia'i holl ddoniau o hyd,
Maddeuodd dy holl anwireddau,
Iachaodd dy lesgedd i gyd;
Gwaredodd dy fywyd o ddistryw,
 gras y coronodd dy ben,
Diwallodd dy fwrdd â daioni:
Atseinier ei fawl hyd y nen.

2.Trugarog a graslawn yw'r Arglwydd,
Hwyrfrydig i lid i roi lle;
Nid byth y mae'n cadw digofaint,
Nid byth yr ymryson efe;

Fel tad wrth ei blant y tosturia,
Mae'n cofio mai llwch ydynt hwy;
O f'enaid, bendithia yr Arglwydd,
Bendithia yr Arglwydd byth mwy.

William Nantlais Williams (Nantlais)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 43, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930