Fy meiau trymion, luoedd maith

Oddi ar Wicidestun
Iesu, difyrrwch f'enaid drud Fy meiau trymion, luoedd maith

gan William Williams, Pantycelyn

Ymhlith holl ryfeddodau'r nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

109[1] Cariad a Gras yng Nghrist.
M. C.

1.FY meiau trymion, luoedd maith,
A Waeddodd tua'r nen;
A dyna pam 'r oedd raid i'm Duw
Ddïoddef ar y pren.

2.Hwy a'th fradychodd, annwyl Oen,
Hwy oedd y goron ddrain,
Hwy oedd y fflangell greulon gref,
Hwy oedd yr hoelion main.

3.Fy meiau oedd y wayw-ffon
Drywanai'i ystlys bur,
Fel y daeth ffrwd o dan ei fron
O waed a dyfroedd clir.

4.O! gariad anorchfygol maith,
Heb gymar iddo'n bod;
Cariad i angel ac i sant,
O anghymharol nod.

5.O! maddau 'mai, a chliria'n llwyr
F'euogrwydd oll i gyd;
N'ad im dristáu dy fawredd mwy
Tra fyddwyf yn y byd.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 109, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930