Fyth, fyth, rhyfedda'i'r cariad

Oddi ar Wicidestun
Fyth, fyth, rhyfedda’i'r cariad

gan Morgan Rhys

Hosanna, Haleliwia (DW)

167[1] Yr Arfaeth a'r Prynedigaeth.
76. 76. D.

1 FYTH, fyth, rhyfedda'i'r cariad
Yn nhragwyddoldeb pell,
A drefnodd yn yr arfaeth
Im etifeddiaeth well
Na'r ddaear a'i thrysorau,
A'i brau bleserau 'nghyd:
Fy nghyfoeth mawr ni dderfydd
Yw Iesu, Prynwr byd.

2 Ar noswaith oer fe chwýsai
Y gwaed yn ddafnau i lawr,
Ac Ef mewn ymdrech meddwl
Yn talu'n dyled fawr;
Fe yfai'r cwpan chwerw
Wrth farw ar y pren;
Palmantodd ffordd i'r bywyd
O'r ddaear hyd y nen.

3 Tragwyddol glod i'r cyfiawn
Fu farw dros fy mai;
Fe atgyfododd eilwaith
O'r bedd i'm cyfiawnhau;
Ar orsedd ei drugaredd
Mae'n dadlau yn y ne'
Ei fywyd a'i farwolaeth
Anfeidrol yn fy lle.

Morgan Rhys


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 167, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930