Neidio i'r cynnwys

Galar gan, er coffadwriaeth am y ddamwain yn ngwaith glo Landshipping Chwefror 14eg, 1844

Oddi ar Wicidestun
Galar gan, er coffadwriaeth am y ddamwain yn ngwaith glo Landshipping Chwefror 14eg, 1844

gan Edward Jones, Môn

GALAR GAN,

ER COFFADWRIAETH

Am y ddamwain ddychrynllyd a ddygwyddodd yn ngwaith glo Syr John Owen, yn Landshipping, Hwlffordd, Swydd Bentro, ger lle y collodd 40 eu bywydau gan y dyfroedd a dorodd i mewn i'r gwaith, 7 o honynt oedd yn briod; gadawsant weddwon ac 28ain o blant amddifaidi alaru ee colled ar eu hol, a 33ain eraill ydoedd fechgyn ieuainc. Dygwyddodd hyn ar ddydd Mercher, Chwefror 14eg, 1844. Thomas Gay a adawodd wraig a phump o blant; Benjamin Harts (a'i fab) a adawodd wraig ac un plentyn; Thomas Llewelyn a adawodd chwaer a ymddibynai arno; William Llewelyn a adawodd wraig a phlant yn eu maintioli; Benjamin Jones a adawodd wraig, Joseph Picton (a'i dri mab) a adawodd wraig a thri o blant; John Cole a adawodd fam a chwiorydd a ymddibynent arno; Hitchings a Richards yn weddw; Joseph Thomas a gollodd un mab; James Owens a gollodd un mab; Weddw Davies a gollodd ddau fab; Thomas John a gollodd ddau fab; Weddw Picton â gollodd ddau fab; Weddw Cole a golledd un mab; John Hughes a gollodd un mab; Weddw John a gollodd un mab; William Hitching a gollodd un mab; James Llewelyn a gollodd un mab; Richard Jones a gollodd nn mab; Robin Butler a gellodd ddau fab; Thomas Cole a gollodd ddau fub; Isaac Jenkins a gollodd un mab a dau amddifaid o'r ddiweddar Jane Wilkins.


Cenir ar y "Don Fechan."



Newyddion pruddion sydd i'm clustiau,
Yn peri i lawer wylo dagrau:
Rhyw gannoedd sydd mewn blinder meddwl
O ddydd i ddydd dan ddirfawr drwbwl.

O mor ansicr ydyw'n hamser,
'Does neb a'i gwyr ond Duw'r uchelder, A
Efe a chwilia giliau'r galon,
Ei 'wyllys ef yw'r holl ddamweinion.


Rhai o dan y ddae'r ga'dd ddyoddeu,
O mor drymed loesion angeu;
Eraill yn y moroedd mawrion,
Angeu rhei'ny ydyw'r eigion.

Ar wyneb daear nis gẁyr undyn
Pa bryd daw angau i roddi terfyn,
Wrth orchymyn y Jehofa
O hyd mae brenin dychryniadau.

O Sir Benfro daeth newyddion,
I lawer barodd ddagrau heilltion,
O waith i frenin dychryniadau
Yno ddod a'i awchus gleddau.

Gerllaw i HwlfFordd, yn Landshipping,
Yr hanes hyn a barodd ddychryn,
O waith i ddamwain drom ysgeler
Ddaeth i ddynion dan y ddaear.

Ac mewn Gwaith Glo, hyn sydd wirionedd,
'Roedd yn gweithio ddynion gweddaidd,
Er iddynt gael am fis eu stopio,
Rai dyddiau'n ôl dechreusent weithio.

Y dwr a dorodd at y glowyr
Dan y ddaear, hyn sydd eglur,
A boddi ydoedd y canlyniad :
Duw a ŵyr p'le'r aeth eu henaid.

'Roedd saith yn briod o rifedi,
A'r lleill i gyd oedd heb briodi
Rhifedi'r cyfau ydoedd deugain,
Ddaeth i ddiwedd yn y ddamwain.

O'r fath ddychryn ga'dd y dynion
Ar waith y gwynt yn dod mor greulon,
A d'wedodd rhyw rai, Y damp, rwy'n coelio,
Yn y gwaith sydd wedi tanio.

Ar hyn y dwr ddaeth er dychryndod,
Ac nid oedd golau yn y gwaelod;
O ewyllys Duw a chymorth dynion,
Dau naw gaed yn fyw o'r eigion.

O dyma olwg tra dychrynllyd,
Ymdrech pob un am ei fywyd,
Fe waeddai un a'i lef yn danbaid,
O Arglwydd Iesu, derbyn f' enaid.

Ca'dd an ei fywyd, gwir yw'r geiriau,
Trwy ragluniaeth Duw'r gorucha',
Hyd ochr y pwll yr oedd yn dringo
Nes i'r bwced ddyfod ato.

Ar lan y pwll 'roedd lle galarus,
Gan ryw nifer fawr, mae'n hysbys;
Rhai am eu gwyr oedd wedi d'rysu,
Ac eraill am eu plant anwylgu.

Rhai am eu brodyr oedd yn gwaeddi,
A'u calon dirion oedd ar dori;
Ac ambell un ar ol ei chariad
Oedd yn waeledd yno i weled.

Fe geir saith o wragedd gweddwon,
A rhai'n bob dydd yn brudd eu calon;
Ac wyth ar hugain sydd i'w gweled
Rhwng y rhai'n o blant ymddifaid.

A rhai'ny sydd ar dori eu calon
Ar ol eu manwl dadau mwynion,
Ac wrth eu mamau maent yn bloeddio,
Ddaw'n hanwyl dad byth atom eto

Eu mamau sydd yn tywallt dagrau
Wrth eu hymadrodd a'u gruddfanau,
Ac hefyd meddwl am eu priod,
'Does neb all ddirnad maent eu trallod.

Ond mae un yn gadarn Geidwad,
Addawodd gofio am y gweiniaid;
Addawodd Duw yn ei fawr gariado
Borthi'r gweddwon a'r amddifaid.

Er nad oes gobaith medd hanesion,
Y gellir codi cyrff y meirwon,
O'r man a'r lle dygwyddodd angau
Roddi terfyn ar eu dyddiau.

Nes del angel Duw i'n galw,
Pan rydd y mor i fynu'r meirw
Ac bydd pawb o'u beddau'n co di,
Byddant hwythau yn y cyfri'.

Gobeithio bod eneidiau'r bobl,
Ga'dd eu gyru i'r byd trag'wyddol,
Heddyw'n moli'r anwyl Iesu
Fu farw ar bren o'i fodd i'n prynu.

Gobeithio bydd i'r rhai achubwyd
Roddi mawl i'r Oen a laddwyd:
Ar sylfaen gre gwnawn oll ymddiried,
Yn wir Amen yw fy nymuniad.

——Edward Jones, Môn, a'i Cânt.


J. T. Jones, Argraffydd, Caerfyrddin.

Nodiadau[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.