Galargan ar ol y Mochyn Du
← | Galargan ar ol y Mochyn Du golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
→ |
GALAR-GAN AR OL Y MOCHYN DU.
Holl drigolion broydd a bryniau
Dewch i wrando hyn o eiriau,―
Fe gewch hanes ryw hen FOCHYN,
A fu farw yn dra sydyn.
O! mor drwm ydym ni!
O mor drwm ydym ni!
Y mae yma alar calon,
Ar ol claddu'r MOCHYN DU.
Beth oedd achos ei afiechyd?
Beth roes derfyn ar ei fywyd?
Ai maidd glas oedd achos anga
I'r hen fochyn i fyn'd adrau?
O mor drwm, &c.
Fe row'd mwy o faidd i'r Mochyn
Na all'sai'i fola bach i dderbyn;
Yn mhen 'chydig o fynydau,
Dyna'r mochyn yn myn'd adrau.
O mor drwm, &c.
Rhedodd Deio i Lwyncelyn,
'Mofyn Matti at y Mochyn;
D'wedodd Matti wrtho'n union
Gall'sai'i roi ei heibio'n burion.
O mor drwm, &c.
Gweithiwyd iddo fox o dderi,
Wedi ei drimio a'i berarogli;
Ac fe weithiwyd hedd ardderchog
I'r hen Fochyn yn Carncoediog.
O mor drwm, &c.
'Mofyn hearse o Aberteil,
A cheffylau i'w gario fyny,—
Y ceffylau yn llawn mourning,
'Roll i ddangos parch i'r Mochyn.
O mor drwm, &c.
Y parchedig wên, Twm Griffy
Ydoedd yno yn pregethu;
Pawb yn sobr anghyffredin,
'Roll i ddangos parch i'r Mochyn
O mor drwm, &c.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.