Galw'r wyf arnat, am dy fod

Oddi ar Wicidestun

Mae Galw'r wyf arnat, am dy fod yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Galw'r wyf arnat, am dy fod
Yn Dduw parod i wrando;
Gostwng dy glust a chlyw yn rhodd
Fy holl ymadrodd eto.


Cyfranna dy ddaionus râd,
Ti'r hwn wyt geidwad ffyddlon,
I'r rhai sy'n ymroi dan dy law
Rhag broch a braw y trawsion.


Cadw fi'n annwyl rhag eu twyll,
Fel annwyl gannwyll llygad;
Yn nghysgod dy adenydd di,
O ! cadw fi yn wastad.


Minnau mewn myfyr, fel mewn hun,
A welaf lun d; wynepryd;
A phan ddihunwyf o'r hun hon
Y byddaf ddigon hyfryd.