Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aeddan mab Blegwryd
← Aedd Mawr | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Aeddan Foeddog → |
AEDDAN, mab Blegwryd, ac wyr i Morgan Mawr, tywysog Morganwg. Yr oedd yn rhyfelwr enwog. Ymddengys gyntaf mewn hanesyddiaeth yn arwain byddin o'r Daniaid, yn ol cyfarwyddyd Iestin ab Gwrgant, i sir Benfro, lle y llosgasant ddinas Tyddewi, ac y lladdasant Morgan, yr esgob, yn y flwyddyn 1000. Aeddan a ymosododd ar sir Aberteifi, yr hon a orchfygodd, a chadwodd feddiant o honi. Oddiyno efe a aeth yn erbyn Gogledd Cymru, lle y gorchfygodd Cynan ab Hywel, yr hwn a syrthiodd ar y maes; a'r modd hwn efe a ddaeth yn ben llywodraethwr holl Gymru. Er yn ormeswr, cofnodir ef fel wedi dangos gofal a sylw mawr i lywodraethiad y wlad, adolygu y cyfreithiau, ac adgyweirio yr eglwysi a ddinystriasid yn amser y rhyfeloedd. Yn 1015, ymosodwyd arno gan Llewellyn ab Seisyllt, y penllywydd cyfreithlawn, a lladdwyd yn nghyd a'i bedwar nai, yn y frwydr. (Gwel Hanes Cymru gan Price, 428.)