Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aeddan Foeddog

Oddi ar Wicidestun
Aedd Mawr Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aeddan Fradog

AEDDAN (FOEDDOG,) sant, yr hwn oedd fab Caw ab Geraint; bu fyw yn y rhan gyntaf o'r chweched ganrif. Yr oedd yn ddysgybl i Dewi Sant yn Nhyddewi. Oddiyno efe a ymadawodd i'r Iwerddon, a chafodd ei benodi yn esgob cyntaf Ferns; a'r amgylchiad hwn a barodd i offeiriaid Tyddewi mewn amser diweddarach honi fod esgobaeth Ferns unwaith yn ddarostyngedig i archesgobaeth Tyddewi. Gyda golwg ar yr enw, gelwir ef gan y Gwyddelod, Moedog, a Madog; a chan Giraldus, Maidocus. John o Teigumouth a ddywed :— "Gelwir y person santaidd hwn Aidamus yn mywyd Dewi Sant; ond yn ei fywyd ei hunan, Aidus; ac yn eglwys Tyddewi gelwir ef Maddok, yr hwn sydd enw Gwyddelig, a chedwir ei ddydd gwyl mewn parch mawr yn y lle hwnw. Adrodda Giraldus hanes ryfeddol am y modd y cariodd Aeddau haid o wenyn i'r Iwerddon; oblegyd ni welwyd y fath greaduriaid erioed yn y wlad hono o'r blaen; ac ni welwyd yn Nhyddewi wedi hyny. Y mae olion coffadwriaethol o hono ar gael yn awr yn sir Benfro, gan mai efe yw sylfaenydd tybiedig Llaniaden, yn y sir hono, ac eglwysi Nalton a West-Havolatone a briodolir iddo ef dan yr enw Madog. Cynelir ei wyl ar y 31 o Ionawr. (Rees's Welsh Saints).