Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aeddan Fradog

Oddi ar Wicidestun
Aeddan Foeddog Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aelgyfarch

AEDDAN (FRADOG,) oedd dywysog yn mhlith y Brythoniaid Gogleddol yn y rhan olaf o'r bumed ganrif. Gwarthnodir ef a'r enw bradychwr. Efe a adawodd achos ei gydwladwyr, ac ymladdodd gyda'r Sacsoniaid yn erbyn Rhydderch Hael, brenin Brythoniaid Stratclyde. Am y rheswm hwn traddodwyd ef i'w genedl gyda gwarth, wedi ymuno mewu triant gyda Gwrgi a Medrod, fel tri charnfradwyr Ynys Prydain, y rhai oeddynt yn achos i'r Brythoniaid golli llywodraeth yr ynys. (Gwel Trioedd, 46, 52, Myv. Arch. p. 11, 65.)