Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aelgyfarch

Oddi ar Wicidestun
Aeddan Fradog Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aelhaiarn

AELGYFARCH, sant, ac un o feibion Helig ab Glanawg, tiriogaeth yr hwn a orlifwyd gan y mor yn y rhan flaenaf o'r seithfed ganrif. Ar yr amgylchiad efe ei hun a'i blant a gofleidiasant fywyd crefyddol, a daethant yn ddysgawdwyr Cristionogaeth selog. Y diriogaeth a safai rhwng sir Fon a sir Gaernarfon, ac a elwir yn awr y Lavan Sands. (Bonedd y Saint, yn Myv. Arch.)