Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Achlen

Oddi ar Wicidestun
Abraham, Rowland Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Adebon

ACHLEN, un o feibion Gwrthmwl Wledig, uchel deyrn y Prydeiniaid Gogleddol o ddechreu hyd ganol y chweched ganrif; yr hwn a ddaeth i Gymru ar ei waith yn colli ei diriogaeth. Cofnodir Achlen yn y Trioedd, (Myvyrian Archaiology ii. 8, 10,) fel yn cael ei gario gyda'i frawd Arthaned ar eu ceffyl erch i fyny i fryn Maelawr, yn Ngheredigion, neu sir Aherteifì, i ddial marwolaeth eu tad.