Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aedenawg
Gwedd
← Adda Fras | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Aedd Mawr → |
AEDENAWG, penaeth enwog, yr hwn a hynododd ei hun yn nechreu y chweched ganrif, yn y rhyfeloedd a'r Sacsoniaid ; ac yn neillduol yn mrwydr Cattraeth, (Gwel Gododin Aneurin). Mab ydoedd i Gieisiar y Gogledd, a chofnodir ef yn y Trioedd fel un o'r tri Gwron, arwireb pa rai oedd peidio encilio o'r frwydr ond ar eu helorau. Y ddau ereill oeddynt ei frodyr, Grudmeu a Henbrien (Myfyr, Arch, ii. 15.)