Neidio i'r cynnwys

Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Afan Buallt

Oddi ar Wicidestun
Aerdeyrn Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Afan Ferddig
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Afan Buallt
ar Wicipedia

AFAN BUALLT, sant, yr hwn oedd yn byw yn y rhan flaenaf o'r chweched ganrif. Yr oedd yn fab i Cedig ab Caredig ab Cynedda, a Tegwedd, merch Tegid Foel, o Benllyn. Efe oedd sylfaenydd Llanafan Fawr a Llanfechan, yn nosbarth Buallt, yn Mrycheiniog. Cafodd Eglwys Llanafan, Trawsgoed, yn sir Aberteifi, hefyd ei sylfaenu ganddo ef. Claddwyd ef yn Llanafan Fawr, lle y mae ei fedd-faen eto i'w gweled. Meddylir ei fod y trydydd esgob Llanbadarn; a chedwid ei wyl ef ar yr 16eg o Dachwedd. (Rees's Welsh Saints.)