Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Alon

Oddi ar Wicidestun
Alo Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Alser mab Maelgwn

ALON, sydd enwog yn y Trioedd, fel wedi bod y cyntaf, yn nghyd a Plennydd a Gwron, i ddwyn breiniau a defodau barddoniaeth i gyfundrefn dan nawdd y genedl. Yn ol un hanes gosodir hwynt allan yn amser Prydain ab Aedd Mawr, yn mysg trefedigwyr cyntaf yr ynys hon; tra y dywed arall eu bod yn byw yn amser Dyfnwal Moelmud. Dr. Owen Pugh, yn ei "Cambrian Biography," a ystyria ei bod yn debygol mai yr un person ydoedd ag Olen, Olenus, Ailinus, a Linus, yn mysg y Groegiaid, oddiwrth yr amgylchiad fod yr un priodoleddau yn cael eu prindoli iddynt hwy ag i Alon yn y Trioedd. (Myv. Arch., ii. 67.)