Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Anwas Adeiniog

Oddi ar Wicidestun
Anno Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Anwyl, Ellis

ANWAS (ADEINIOG,) un o ryfelwyr y brenin Arthur, yr hwn o bosibl a dderbyniodd yr enw hwn oddiwrth gyflymdra ei farn. Gan rai modd bynag, ystyrir efo nodwedd ffugiol. Ymddengys ei enw mewn cân gywrain, o ddyddiad borea; ond nid yw yr awdwr yn adnabyddus, yn cynwys ymddiddan rhwng Arthur, Cai, a Glewlwyd, yr hon a gedwir yn y Myvyrian Archaiology, i. 167. Enwir ef hefyd yn nghyd â rhyfelwyr ereill i Arthur, yn y Mabinogi, Kilhwch ac Olwen, tudal. 259.