Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Anwyl, William
← Anwyl, Lewis | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Arau → |
ANWYL, WILLIAM, ydoedd wr o sir Dinbych, gan yr hwn y cafodd Thomas Jones, argraffydd yn yr Amwythig, y llyfr canlynol, "Ymadrodd gweddaidd yn nghylch diwedd y byd; neu dueddiad at yr amser y dygwydda dydd y farn; yn cynwys hefyd fwy na dau cant o englynion duwiol, o erfyniad am drugaredd, yn ol dosbarth y prif feirdd, wedi i'r postfeirdd, rhag eu llygru, eu rhoi allan mewn cerdd, i'w cadw mewn parch. Argraffwyd yn yr Amwythig, ac ar werth yno gan Thomas Jones, yn yr hwylfa a elwir Mr. Hill's Lane." Y mae iddo ragymadrodd "at y darllenwr," gan Thomas Jones, lle y dywed, "Yn y flwyddyn o oed Iesu 1700, gwr boneddig o sir Dinbych, (sef Mr. William Anwyl,) a roddodd y corff yn ysgrifen o law deg i mi, i'w argraffu, os gwelwn yn dda; ac a ddywedodd wrthyf ei gael ef yn mhalas Syr Richard Wynne, (sef yn Ngwydyr, yn sir Dinbych,) ar ol marw Syr Richard Wynne. Ond ni wyddai ef pwy oedd yr awdwr, na pha bryd yr ysgrifenwyd ef. Nid oes mo enw yr awdwr wrth y gwaith." Maint y llyfr yw 64 tudalen 12 plyg. Y mae ynddo heblaw rhyddiaith, 101 o "Englynion erfynied am drugaredd."