Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aregwedd Foeddig

Oddi ar Wicidestun
Arddun Benasgell Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Argad

AREGWEDD (FOEDDIG,) oedd ferch i Afarwy ab Lludd. Y mae wedi ei chofnodi yn y Trioedd fel wedi bod yn achos bradwrus o gaethiwed Caradog; yr hwn ar ol ei orchfygiad gan y Rhufeiniaid dan Ostorius, yn y flwyddyn 51, a ffodd ati am noddfa, a hi a'i traddododd ef i'w elynion mewn cadwynau. Yr oedd yn frenhines y Brigantiaid, ac yn ddynes o nodwedd halogedig; oblegyd dianrhydeddodd Venatius, ei gwr, trwy syrthio mewn cariad â Velocatus, un o weision ei gwr. Cymerodd rhyfel cartrefol le, yn yr hwn y llwyddodd ei gwr ar y cyntaf. Y Rhufeiniaid modd bynag, er ei gwobrwyo am roddi Caradog i fyny, a ddaethant i'w chynorthwyo, ac achubasant hi rhag cosbedigae gyfiawn ei gwarthusrwydd.