Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aron

Oddi ar Wicidestun
Arley, Stephen Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aronan

ARON, un o feibion Cynfarch, tywysog y Brythoniaid Gogleddol. Yr oedd yn frawd i Urien a Llew; a hwy oll a hynodasant eu hunain yn y rhyfeloedd a'r Sacsoniaid. Cof— nodir Aron yn y Trioedd, fel un o dri chyng— boriaid milwraidd llys Arthur. Y ddau ereill oeddynt Cynan mab Clydno Eiddun, a Llyw— arch Hen. (Myv. Arch., ii. 18.) Dywedir hefyd yn y Brat Tysilio, iddo dderbyn teyrnas Prydain, neu Ysgotland, oddiwrth Arthur, pan oedd wedi gorchfygu yr Ysgotiaid a'r Pictiaid; ac iddo gael ei ladd yn y frwydr a ymladdwyd yn erbyn Medrod, pan ddychwelodd Arthur Gal.