Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Arthen mab Brychan
Gwedd
← Arthanad mab Gwrthmwl Wledig | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Arthen mab Sitsyllt ab Clydawg → |
ARTHEN, mab Brychan, sant. Yr oedd eglwys Gwaenllwg, yn sir Fynwy, wedi ei chysegru iddo unwaith, yr hon a ddinystriwyd gan y Sacsoniaid. Parheir ei goffadwriaeth yn yr enw sydd ar fryn yn Brycheiniog, ger Llanymddyfri, a elwir Cefnarthen, yr hwn oedd raid fod o fewn tiriogaethau ei dad. Y mae lle hefyd ger Aberystwyth, a elwir Rhiwarthen; ond dichon i hwn gael enw oddiwrth Arthen, arglwydd Ceredigion. Claddwyd ef yn Ynys Manaw.