Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Baker, David
← Baglan mab Ithel Hael | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Bangor, Hugh → |
BAKER, (DAVID,) a anwyd yn Abergavenny, yn 1575. Yr oedd ei dad yn wr o feddianau, ac yn oruchwyliwr i arglwydd Abergavenny; a'i fam oedd chwaer i'r Dr. David Lewis, barnwr y môr-lys; ar ol yr hwn y cafodd ei enw. Derbyniodd ei addysg yn Christ's Hospital, yn Llundain. Symudodd oddiyno i Broadgate Hall, Rhydychain, yn 1590. Yr oedd yn mwriad ei dad i'w ddwyn i fyny yn offeiriad, ond gan fod rhyw rwystrau ar y ffordd, anfonwyd ef i'r Middle Temple cyn iddo gymeryd un gradd, lle yr ymroddodd gyda diwydrwydd mawr i astudio y gyfraith. hwn blinid ef yn fawr gan Atheistiaidd; ond yn mhen amser wedi hyny, cafodd waredigaeth hollol oddiwrthynt; ac hyd derfyn ei oes, ymroddodd i fywyd crefyddol. Yr oedd yn awdwr amryw lyfrau ar dduwinyddiaeth ymarferol; rhoddir rhes o honynt gan Wood yn hanes ei fywyd ef; ond nid ymddengys i'r un o honynt gael eu hargraffu. Yr oedd hefyd yn gyfreithiwr cyffredin rhagorol, ac yn hynafiaethydd da. Yr oedd yn gyfarwydd neillduol yn hynafiaethau yr eglwys Frytanaidd. Ysgrifenodd ei holl weithiau braidd yn Lladin; a chyfieithodd weithiau amryw awdwyr o'r Lladin i'r Saesneg; ond bu farw yn Llundain yn 1641.