Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Beaufort, Edward Somerset
← Bayly, Thomas, D.D | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Beaufort, Henry Somerset → |
BEAUFORT, EDWARD SOMERSET, ail ardalydd Worcester; ydoedd fab hynaf Henry Somerset, pumed iarll Beaufort, a'r ardalydd cyntaf. Efe a briododd Elizabeth, merch i Syr William Dormer, N.G., ac yn ail, Margaret, merch i iarll Thomond. Ymlynodd y boneddig hwn, fel ei dad, wrth y deyrniaeth yn selog, yn amser y rhyfel gwladol; ac efe a benodwyd gan Siarl I. yn arglwydd-raglaw Gogledd Cymru, ac a gyferchid gan ei fawrhydi fel iarll Morganwg, hyd nes y llwyddodd i gael ei urddau etifeddol. Cyhuddid Siarl frenin o anfon yr arglwydd hwn (crefydd yr hwn, medd arglwydd Clarendon, oedd o'r fath hono o Babyddiaeth ag oedd gasaf gan y bobl, gan ei bod y fwyaf Jesuitaidd) i gytuno a'r Pabyddion Gwyddelig a gwrthryfelgar, a dwyn corff mawr o honynt drosodd i wasanaeth y brenin. A chwynai y bobl, a gwadai y brenin yr iarll fel ei wasanaethwr. Bu y mater mewn dadl yn hir, a thaerid fod gan y brenin law ddirgel yn y cyfan. Gadawodd ei arglwyddiaeth waith llenyddol ar ei ol, "A Centuary of the names and scantlings of such inventions as at present I can call to mind to have tried and perfected, which, my former notes being lost, I have at the instance of a powerful friend, endeavoured now, in the year 1665, to set these down in such a way as may sufficiently instruct me to put any of them practice." A argraffwyd gyntaf yn 1663, yr hwn waith a ddarlunia nerth a chymhwysder ager-beiriant. Bu farw Ebrill 3, 1657, (Burk's General and Heraldic Dictionary.)