Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Bedwini
Gwedd
← Bedwas (Sant) | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Bedwyr → |
BEDWINI, a nodir yn y Trioedd, (Myv.Arch. ii. 68,) fel arch esgob Celliwig, yn Nghornwal, yr hyn, yn nghyd a Chaerlleon-ar-Wysg, a Chaer Rhianedd, yn y gogledd, a ffurfient dair archesgobaeth Prydain yn amser Arthur. Cofnodir dywediad iddo yntau hefyd yn Englynion y Clywed:—
"A glywaisti a gant Bedwini,
Oedd esgob doniawg diffri?
Rhagrithia dy air cyn noi dodi."