Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Beli, mab Benlli Gawr

Oddi ar Wicidestun
Bedwyr Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Beli, brenin Prydain

BELI, mab Benlli Gawr, rhyfelwr nodedig yn Ngogledd Cymru tua diwedd y bumed ganrif. Gwneir cyfeiriad at ei feddrod yn Englynion y Beddau, y rhai a dybir eu bod yn Llanarmon yn Ial, sir Dinbych:—

Pieu y bedd yn y maes mawr,
Balch ei law ar ei lafnawr,
Bedd Beli fab Benlli Gawr."