Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Beli Mawr

Oddi ar Wicidestun
Beli, brenin Prydain Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Beli mab Rhun ab Maelgwn Gwynedd

BELI MAWR, mab Manogan; ar farwolaeth ei dad, efe a'i canlynodd i'r llywodraeth Brydeinig, yn ol y Brut, yr hyn a fwynhaodd am ddeugain mlynedd, ac a ddylynwyd gan ei fab Lludd. Cofnodir ef yn y Trioedd (Myv. Arch. ii. 59) fel wedi diddymu un o dri aflonyddiadau ynys Prydain; yr hyn oedd gynllwyn yn erbyn y llywodraeth, a rhyfel cartrefol. Efe oedd tad yr enwog Caswallon.