Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Belyn, mab Cynfelyn
Gwedd
← Beli mab Rhun ab Maelgwn Gwynedd | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Belyn o Leyn → |
BELYN, mab Cynfelyn, a gofnodir yn y Trioedd fel arweinydd y tri Gosgordd addwyn ynys Prydain. Gelwid hwy felly am eu bod yn dwyn arfau ar eu traul eu hunain, heb geisio tal na gwobr oddiwrth y llywodraeth. Belyn a'i alluoedd a wasanaethasant yn myddinoedd Caradawg ab Bran. Caradawg oedd enwog mewn hanesiaeth. (Myv. Arch. ii. 8, 69.)