Geiriau'r Iesu (Pantycelyn)

Oddi ar Wicidestun

Geiriau'r Iesu, William Williams, Pantycelyn

O! Llefara, addfwyn Iesu
Mae dy eiriau fel y gwin,
Oll yn dwyn i mewn dangnefedd
Ag sydd o anfeidrol rin;
Mae holl leisiau'r grëadigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth dy lais hyfrytaf tawel,
Yn distewi a mynd yn fud.


Ni all holl hyfrydwch natur,
A'i melystra penna' i mas,
Fyth gymharu â lleferydd
Hyfryd pur maddeuol ras
Gad im glywed sŵn dy eiriau,
Awdurdodol eiriau'r nef,
Oddi mewn yn creu hyfrydwch
Nad oes mo'i gyffelyb ef.


Dwed dy fod yn eiddo imi,
Mewn llthrennau eglur clir;
Tor amheuaeth sych, digysur,
Tywyll, dyrys, cyn bo hir ;
'R wy'n hiraethu am gael clywed
Un o eiriau pur y ne', :
Nes bod ofon du a thristwch
Yn tragwyddol golli eu lle.