Geiriau Llanw (Mynyddog)
Gwedd
- Mae llawer o hen eiriau llanw
- I’w cael ym mhob Llan a phob lle,
- Yn debyg i bethma a hwnnw,
- Fel tau ac fel tase, yn te,
- Yn te meddai’r dyn sydd yn holi,
- Fel tase, yn te, meddai’r llall,
- Yn ddigon a gwneud dyn i daeru
- ’Dyw hanner y byd ddim yn gall.
- Fel tau, fel tase, yn te,
- Ofnatsen gynddeirus, yn te,
- Peth hwnnw yw gweled rhai’n bethma
- Fel tase, fel tau, yn te.
- ’Dyw hanner y byd ddim yn gall.
- Ym Môn chwi gewch glywed miawn mynyd,
- A llawer o siarad a stwr,
- A phawb fel pe tae yn dywedyd
- Cymraeg o’r “sort oreu reit siwr.”
- Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon,
- Cewch “firi di-wedd” ym mhob lle,
- A’r enw roir yno ar feddwon
- Yw “chwil ulw beipan” yn te.
- Fel tau, &c.
- Yw “chwil ulw beipan” yn te.
- Os ewch tua Meirion a morol,
- Cewch giasag i fynd ar ei thraws,
- A ciariad, a ciarag, a cianol,
- A ciamu, a ciamfa, a ciaws;
- Ac yno fel pobman trwy’r gogledd,
- Mae’r pla wedi taenu’n mhob lle,
- Yn te ydyw’r dechreu a’r diwedd,
- Yn te ydyw’r bethma yn te.
- Fel tau, &c.
- Yn te ydyw’r bethma yn te.
- Os ewch chwi i lawr tua’r Deheu,
- ’Run siwt mae hi obry yn awr,
- Mae pawb gan ta pun ar ei oreu
- Yn dishgwl yn ffamws i lawr;
- Mae pawb yno’n grwt neu yn grotan,
- Yn whleia â’u giddil o hyd,
- Wy’n sposo taw dyna y bachan
- Sy’n cwnni yn awr yn y byd.
- Fel tau, &c.
- Sy’n cwnni yn awr yn y byd.
Chwef., 1873.