Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Adda Fras

Oddi ar Wicidestun
Adda Fawr Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Aedd Mawr

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Adda Fras
ar Wicipedia

ADDA FRAS Bardd a flodeuodd yn ol yr awdurdodau cyffredin, megys Dr. Davies, Edward Llwyd, a Williams, tna 1240, ond y mae ben gofion am dano fel hyn, "Yn amser Gruffydd ab Seisyllt, Tywysog Cymru, yr oedd Brudiwr a elwid Adda Fras, yn trigo yn y lle a elwid Aber Llechog, yn is-Conwy; ac yno y peris ei gladdu mewn corlan defaid; i'r man a'r lle y gwnaeth efe ganeuau i ddangos y byddai yno Fonachlog. Yr oedd yr Adda Fras yma yn byw o gylch y flwyddyn 1060," Maenan, gerllaw Llanrwst, a elwid Monachlog Lechog, mal y tystiai rhyw fardd am ei hadfeiliad

"Aethost o fewn i wythawr
Fonachlog Lechog i lawr."

Yr oedd Adda Fras, fel Merddin ac eraill, yn brudio ganoedd o flynyddau wedi eu marwolaeth, mal y prawf y ffug-frudiau a briodolir iddynt. Beirdd y bumthegfed ganrif wrth bleidio Iarll Rismwnt, wedi hyny Harri VII, a lechent yn nghysgod enwau y cynfeirdd a'r gogynfeirdd, er mwyn diogelu eu hunain a rhoddi mwy o rym prophwydoliaethol i'w daroganau, mal y gwelir yn ngwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn, 1480.

"Wrth ddarllen y sen y sydd
O waith Robin doeth rybydd;
Taliesin, y dewin doeth,

A Merddin burddysg mawrddoeth;
Ac Adda Fras gyhoedd frud,
Didwyll y maent yn d'wedyd."
"GWYLIEDYDD," 1824,

Safai Adda Fras yn uchel yn ngolwg y beirdd, megys ag y dywedai Tudur Aled yn marwnad D. ab Edmwnd,

"Adda Fras oedd ef ar wawd."

Noda'r Cambrian Register, vol. i. 445., fod tair o'i frudiau mewn llawysgrif yn nghasgliad ysgol Gymreig Llundain. Dichon wedi'r cwbl nad oes dim o'i wir waith ef ar gael; ond mai brudian fugiol sydd ar ei enw.

Nodiadau

[golygu]