Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Alan
Gwedd
← Ailfyw | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Alan Forgan → |
ALAN. Un o'r teulu mawr a ddaeth drosodd o Lydaw yn Ffrainc, ydoedd Alan. Ei dad oedd Emyr Llydaw, brenin Graweg, ac yn mysg amryw eraill o'r un wlad, daeth i Gymru, ac ymsefydlodd yn Nghor Illtud Farchog, oblegyd cefnder i'w dad ef oedd Illtud, a thyma ddechreuad arbenig ymfudiad cenhadol Llydaw i Gymru. Bu i Ålan dri o feibion, y rhai a hynodasant eu hunain fel seintiau disglaer, nid amgen, Lleuddad, a elwir hefyd Lleuddad Llydaw, Lloniaw, Periglor Padarn, Esgob yn Llanbadarnfawr, a Llynab, yr hwn a fu'n archesgob Llandaf, yn ail ar ol Dyfrig, medd rhai, yn drydydd, medd eraill.