Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aled (Tudur)

Oddi ar Wicidestun
Albanactus Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Alo

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Tudur Aled
ar Wicipedia

ALED (TUDUR). Theodore Aled, Bencerdd, bardd Cadeiriog Eisteddfod Caerwys, yn y fl. 1525. Efe oedd prif fardd addefedig ei oes yn Ngwynedd a Phowys ar ol marwolaeth ei ewythr a'i athraw, Dafydd ab Edmwnd. Preswyliai ar fin afon Aled, yn Garth Geri Chwibryn, yn Llansanan, a chymerodd ei enw barddonol oddiwrth yr afon hono. Blodeuai o 1480 i 1525. Yr oedd efe, fel pawb o feirdd yr oes hono, yn babydd; ac yn mhellach na hyny yr oedd efe yn fynach o urdd Sant Ffransis. Pan wisgwyd ef yn yr urdd hwnw, canodd yr englyn canlynol:

"Brawd i Sant Ffransis, na bo brych—f' wyneb
Pan fyner ei edrych;
Yn ei grefydd yn gryfwych,
Yn ei wisg wyf yn was gwych."

Mae Cywydd Gwenfrewi yn amlygiad cyflawn o'i goelion Pabaidd, yn ogystal ag o'i ddawn farddonol. Mae ein darllenwyr yn gyfarwydd â chwedl Gwenfrewi, sef i ryw dywysog dori ei phen a'i gleddyf am na chydsyniai a'i drachwant halogedig, ac i Feuno sant godi'r pen, a'i osod yn ol yn ei le, ac adferu bywyd Gwenfrewi. Yn y man y codwyd y pen y tarddodd ffynon Treffynon. Gwel BEUNO. Dyma engreifftiau o'r Cywydd :

"Cariadog lawog o lid
Hyd ei theml daeth i'w hymlid;
Lladdodd wen lle 'dd oedd unawr,
Llyn tawdd a'i llyncawdd i'r llawr;

Gwae'r ynfyd er gwirionfun,
O'i lladd hi collodd ei hun;
Trwy'i mwnwgl taro meinwen,
Treiglo'r arf trwy goler wen.'


Ar ol i Feuno ail osod y pen ar gorph Gwenfrewi, gwelid ol yr asiad ar y gwddf,

"Nodi amgylch, nid ymgudd,
Nod yr arf yn edau rudd."

Am darddiad y ffynon a'i rhinweddau, y dywed:—

"Arwain afon o'r nefoedd,
A chwys gras o'l chysegr oedd:
Dy deyrnged pan godod gwen
Tarddu enaint Iorddonen;
***
Arogl o nef i'r glyn yw.
Ager gwin o'r gro a gaid
Fal gwynt o fel y gynthiaid;
Mal gwiw arogl mewn gweryd,
Mwag o ban yn mysg y byd,
Man pur ar bob maen purwyn,
Maen ac ol gwaed mwnwgl gwyn." &c.

Gwel y Cywydd yn llawn yn y Gwladgarwr, llyfr vi, tu dal. 368. Yr oedd Tudur Aled yn bleidiwr brwdfrydig i Syr Rhys ab Tomas o Ddinefwr, yn yr ymdrech egniol a wnaed i osod Iarll Rismwnt, sef Harri Tudur o Benmynydd, Môn, wedi hyny Harri VII., ar orsedd Prydain Fawr. Ganed Syr Rhys yn 1451, a bu farw yn 1527; felly yr oedd Tudur Aled ac yntau yn gyfoedion. Taid Syr Rhys oedd Gruffudd ab Nicolas, noddwr Eisteddfod fawr Caerfyrddin 1451, pan enillodd D. ab Edmwnt, ewythr Tudur Aled, y gadair arian. Canodd Tudur Aled lawer o glod i Syr Rhys am ei wrhydri milwraidd, ac er anog y Cymry i'w gynorthwyo; ac yr oedd gair bardd y pryd hwnw yn uwch na gair pob un arall.

"Gair ar air pawb oedd ei air ef."

Dyma un o'i benillion gorchestol i Syr Rhys ab Thomas:—

"Aeth d' arwydd arnynt o waith d' arddyrnau,
A'th law mewn irwaed, a'th lu manerau,
A throi gwayw'n waedwyllt, a'th rwyg waniadau,
A thrwy fael fflemig Arthur fel fflamau;
Anfon drwy Dduw Ion un o'r ddau,—o'th waith,
Ai nhwy'n feirw unwaith, ai ni'n hen freiniau."

Gwelir fod cymeriad llythyrenol yn y penill, pob llinell yn dechreu gydag A.

Diddadl fod Tudur Aled yn wr o ddysg a gwybodaeth gyffredinol, wedi cael ei addysgu gan D. ab Edmwnt, yn mhob gwybodau Cymruaidd, mal y tystia yn ei farwnad iddo:

"F'ewythr o waed, f'athraw oedd,
Fonwes gwawd, fy nysg ydoedd.
Athraw oedd ef uthr ei ddull,
Athronddysg athraw henddull."

Ac yr oedd ei urdd Babaidd, a'i gydnabyddiaeth a'r Monachod yn Ninas Basing, Maenan, Llanegwestl, ac feallai Ystrad Fflur, a manau eraill, yn sicrhau fod holl ddysg eglwysig y cyfnod hwnw yn ei feddiant. Mae yn cyfeirio weithiau at yr awdwyr Paganaidd uchelddysg, megys ag y dywedai am rywun

"Os yn y Cor Seneca yw."

Cynaliwyd dwy Eisteddfod rwysgfawr yn Nghaerfyrddin, yn y bumthegfed ganrif; y gyntaf yn 1451, a'r ail yn 1461. Ymddengys i D. ab Edmwnt gael y flaenoriaeth, gadarnhau ei bedwar mesur ar hugain, yn y ddwy; eithr bu farw cyn sefydlu ei ddosparth yn Ngwynedd a Phowys. Dichon mai diffyg cefnogaeth breninol oedd yr achos o'r oediad, gan fod rhyfeloedd y Rhosynau yn siglo y deyrnas yn y tymhor hwnw. Pa fodd bynag, disgynodd y gorchwyl hwnw ar Dudur Aled. "Llyma bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod, modd ag a'u doded ar ddosparth gan Ddafydd ap Edmwnt, yn yr ail Eisteddfod fawr yn Nghaerfyrddin, oed Crist 1461, a hon a elwir Dosparth Caerfyrddin, ag a gonffirmiwyd yn Gadair Cerdd Dafod i holl Wynedd a Phowys, yn Eisteddfod gyntaf Caerwys, yn sir y Fflint. Bydded hysbys i bawb o foneddigion a chyffrediniaid, fod Eisteddfod ar wyr wrth gerdd dafawd a thant, o fewn tref Gaerwys, yn swydd Fflint, yr ail ddydd o fis Gorphenaf, yn y bymthegfed flwyddyn o goronedigaeth Harri yr wythfed, ger bron Richard ab Hywel ab Ieuan Fychan, Ysw., ac o gytundeb Syr William Gruffudd, a Syr Robert Salsbri, a thrwy bresenawl gynghor Gruffydd ab Ieuan ab Llywelyn Fychan, a Thudur Aled, bardd Cadeiriawg, a llawer o foneddigion a doethion eraill, er gwneuthur trefn a llywodraeth ar wyr wrth gerdd dafawd a thant, ac ar eu celfyddyd; nid amgen i gadarnhau a chyfrymiaw y Pencerddiaid, a'r sawl a gafas radd o'r blaen, i raddu y sawl a'i haeddai, ac i roddi i eraill ysbas i ddysgu ac i fyfyriaw yn nesaf ag y galler wrth gydwybod, ac wrth hen ystatyd Gruffydd ab Cynan. Llyma y rhai a raddiwyd yn Nghaerwys; Tudur Aled a ganiadwyd ac a gyfrymied yn athraw cadeiriawg, i arwain ariandlws, fal yr oedd er pan ei cymerasai dan ei berygl i'w ddwyn o'r lle yr oedd."—Greal.

Mae yn debygol wrth hyn i Dudur Aled gymeryd ariandlws ei ewyrth D. ab Edmwnt, a'i arwedd ar ei ysgwydd heb ganiatad rheolaidd Eisteddfod. Cadair aur neu arian oedd tlws Pencerdd Cerdd dafod, ac iddo y perthynai arwain y tlws hwnw ar ei ysgwydd, yn arwydd ei fod yn athraw o Bencerdd yn warantedig o farn Eisteddfod. Cadair Prydydd a ddengys ei awdurdod o gyfeistedd ac yngnadaeth; a phob tlws arall a ddengys gelfyddyd a'i harweiniai. Gorphwysle pob ariandlws yw llys arglwydd y cyfoeth y bo ynddo yr Eisteddfod ac yno ei dychwelir pan fo marw y Pencerdd a'i harweinio. O bydd ariandlws yn gorwedd yn segur yn ei gorphwysle briodol, yn ol gorchymyn yr athraw a'r dygiawdwr diweddaf a fu yn ei arwain, a bod Pencerdd yn clywed ei hunan yn abl i'w ddwyn wrth fraint ei gelfyddyd, ac i ateb drosto ei hun, ei chymeryd a all oddiyno, dan rybudd cyflawn un dydd a blwyddyn, yn mhob ffair, a marchnad, a llys cyfreithiawl, o fewn ei dalaeth, i ddangos ei fod yn cymeryd yr ariandlws dan ei berygl, ac yn ymadneu o hono, sef honi fod ganddo hawl i gadw meddiant o'r ariandlws a bod yn gyfrifol am dano, a rhoddi ei lawnwerth yn arian neu aur yn wystl am dano, heblaw ei radd warantedig o Eisteddfod neu neithiawr riawl. Dysgybl Pencerddaidd yn unig a allasai hawlio'r ariandlws; ac yn yr Eisteddfod nesaf a fytho byddai raid iddo ddangos ei fod yn abl i'w hadneu a'i chadw o nerth celfyddyd a gwybodau Awen. Aeth Tudur Aled drwy y defodau hyn yn rheolaidd, a chyfrymiwyd ef yn Eisteddfod Caerwys yn athraw Cadeiriawg i arwain ariandlws, ac o hyny allan i'r dalaeth ei gymeryd yn athraw yn ei gelfyddyd ef.—Greal, Rh. 2.

Pethau diweddar o waith D. ab Edmwnt a Gutyn Owain yw rheol mesurau Tudur Aled gan mwyaf, "Nid amgen na phedwar mesur ar hugain yn gynifer Cadair Cerdd Dafod, herwydd dosbarth a wnaethpwyd ar fesurau gan Ddafydd ab Edmwnt, a gwedi hyny a gonfirmiwyd herwydd y dangos arni, gan Theodor Aled, Bencerdd, yn Eisteddfod gyntaf Caerwys; a barnu yn ofer fesurau pob mesur arall, ag ni weddai i brydydd o Bencerdd eu canu a'u dangos ger bron Eisteddfod."—Cyf. y Beirdd.

Mil, pum cant, rhifant y rhed,—a rhagor
Pump ar hugain, rhodded
Yn ddeddf bwys beirdd Caerwyn ged,
Rheolau Tudur Aled
—GRUFFYDD HIRAETHOG.


Am deilyngdod barddonol Tudur Aled gall ein darllenwyr droi i Orchestion Beirdd Cymru, a barnu drostynt eu hunain. Barna Gwallter Mechain fod ei ddarluniad o'r March yn werth i'w gydmharu a darluniadau Homer a Virgil o'r un sylfon. Dyma nerth y march;"

Ser—neu fellt—o'r sarn a fydd'
Ar godiad yr egwydydd;
Carnau a phedolau'n dan
A ddryllia ddaear allan.

Gwelwch eto mor ysgafndroed oedd y march:—

"O gyrir ef i'r gweirwellt,
Ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt."

Noda Dr. W. O. Pughe fod Gramadeg o waith Tudur Aled mewn bod yn rhywle, canys efe oedd athraw cadeiriog ei oes. Bu Gruffydd Hiraethog o dan ei athrawiaeth; a gellid meddwl mai athraw dyfnddysg a chywrain dros ben ydoedd. Mae coethder, celfyddyd, ac ucheledd, yn hynodi ei gyfansoddiadau; ceir tlysni diarebol yn fynych yn ei farddoniaeth, megys;—

"Mae'n wir y gwelir argoelyn—difal
Wrth dyfiad y brigyn;
A hysbys y dengys dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn."

Nid oedd yn dda rhyngddo ag Abad Llandudoch, oblegyd nid yr un urdd o fonachod ag ef oedd yr Abatty hwnw:—

Abad mul brychiad, mael broch—diobaith
Neud abad Llandudoch;
Abad gytgat llygatgoch,
Abad a fyn bwyd i'w foch,

Yn sir Benfro y mae Llandudoch, a moch yw y llysenw a roddir ar y trigolion, a moch y galwai Tudur Aled fonachod yr Abatty. Dyma syniad cywrain o'i eiddo wrth ddarlunio gwron:

"Gwrawl, tragwrawl, trugarog—wrawl,
Ni bu tragwrawl na b'ai trugarog.

Dywedai rhywbryd tua gauaf ei einioes:

"Gwanhau yr wyf gan hir ofal,"

Diweddwn ein cofion am dano yn ei eiriau ei hun, y rhai a ddangosant ei grefyddolder:

"Rhown ein gofal bob calon
Ar Grist fry a'i groeswaed fron,
Lle nad oes na garwloes gur.
Na dialedd na dolur,
Nac erlid, llid nac oerloes,
Na dig, na galar nid oes,
Na newyn, chwerwddyn na chwyn
Na syched, na nos achwyn.

Sylwyd eisioes fod Tudur yn un o'r Brodyr Llwydion, neu frawd i Sant Ffransis, a'i fod yn llawn o frwdfrydedd Pabyddol. Yn ei amser ef, sef yn 1490, yr adeiladwyd Capel Gwenfrewi yn Nhreffynon, felly yr oedd rhinweddau y ffynon yn tynu llawer o sylw, ac o bererinion ati. Canwyd ei farwnad ef gan ei gydlafurwr yn Eisteddfod Caerwys, sef Gruffydd ab Ieuan ab Llywelyn Fychan o'r Llanerch.

Dyma rai llinellau o'i farwnad o'r Brython:

"Trist yw'r cwyn tros awdur cerdd,
Trwstangamp trawst awengerdd;
Am na bu, ac am na bydd,
Ail Dudur Aled wawdydd.
I Ddofydd yr addefwyd,
Ei ddewis glog oedd wisg LWYD;

Cryf oedd o serch crefydd saint,
Crefydd—frawd cor ufyddfraint;
Ffydd y sant hoff oedd ei swydd,
FFRANSIS a hoffai'r unswydd,
Buasai well yn y bais hon,
Bwrw deuddeg o brydyddion.

Dywedir mai yn Nhre'rbrodyr yn Nghaerfyrddin y claddwyd ef.

Nodiadau

[golygu]