Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Amaethon

Oddi ar Wicidestun
Amabon Glochydd Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Ambrosius, (Aurelius)

AMAETHON, ab Don, a brawd i'r lledrithiwr enwog Gwydion ab Don. Dywed yr hen ramantau Cymreig ddarfod iddo ddwyn iwrch a chenaw gast o Annwn, yr hyn a achlysurodd y frwydr a elwid Câd Goddeu (Battle of the Trees), a dyma un o dair ofergad Ynys Prydain. Ceir cân gyfriniol iawn o waith Taliesin ar y frwydr hon yn y Myf. Arch. t. d. 30.

Nodiadau

[golygu]