Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Amlawdd Wledig

Oddi ar Wicidestun
Ambrosius, (Aurelius) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Amo

AMLAWDD WLEDIG, tywysog o'r Brutaniaid Gogleddol, yr hwn oedd yn byw oddeutu diwedd y bumed ganrif. Efe oedd tad Tywynwedd, mam Tyfrydog; ac hefyd Eigr, neu Ygrainc y Rhufeiniaid, a mam y Brenin Arthur. Crybwyllir am dano yn Mabinogi Cilhwch ac Olwen.


Nodiadau

[golygu]