Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Arathal
Gwedd
← Aronan | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Arthanad → |
ARATHAL, a elwir gan Seiffrey o Fynwy, Arthgallgo, oedd fab i Morfudd, ac a ddilynodd ei frawd Gorfyniawn ar orsedd y Brutaniaid. Yn ol y Brut, yr oedd ar y cyntaf yn dywysog o gymeriad lled wael, canys efe a lethodd yr uwch—bendefigion ac a gyfododd rai o'r gwehilion i anrhydedd, ac a ysbeiliodd y cyfoethogion trwy gribddeiliaeth, fel y darfu i'r cyfoethogion gyfodi yn ei erbyn, a'i ddiorseddu, a gosod ei frawd Erlidyr, a gyfenwid y Tosturiol, ar yr orsedd. Wedi teyrnasu pum' mlynedd rhoddodd Erlidyr y frenhiniaeth yn ol i'w frawd Arthal, yr hwn oedd erbyn hyn wedi gadael ei arferion drwg, a pharhaodd i deyrnasu yn gyfiawn am ddeng mlynedd wedi hyn hyd ei farwolaeth.