Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aregwedd Foeddawg

Oddi ar Wicidestun
Arddun Benasgell Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Argad

AREGWEDD FOEDDAWG oedd ferch i Afarwy ab Lludd. Mynegir am dani yn y Trioedd fel un a fu yn achlysur bradwriaethol o gaethiwed Caradawg, neu Caractacus, yr hwn, wedi ei orchfygu gan y Rhufeiniaid dan Ostorus, yn y flwyddyn 51, a diangodd ati hi am nodded, ac a roddwyd i fynu iddynt ganddi hi mewn cadwynau. Yr oedd hi yn frenhines y Brigantwys, ac yn ddynes o gymeriad llygredig, canys, wedi dianrhydeddu ei gwr Venectius trwy syrthio mewn cariad â Velocatus, un o weision ei gwr, cymerodd rhyfel wladol le, yn yr hyn y bu ei gwr yn llwyddianus yn y dechreu, ond daeth y Rhufeiniaid i'w chynorthwyo, fel gwobr am roddi Caradawg i fynu iddynt hwy, yr hyn a'i hachubodd hi rhag cosb gyfiawn ei gwaradwydd.

Nodiadau

[golygu]