Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Arthur

Oddi ar Wicidestun
Arthfael Hen Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Arthwys

ARTHUR. Y mae hanes y gwron rhyfeddol hwn yn ymranu yn naturiol yn ddwy ran; un yn cynwys Arthur yr hanesyddion, a'r llal Arthur y rhamantwyr: ond gorchwyl digon afrwydd yw ceisio dadrys y ffaith oddiwrth y ffug, a phenderfynu pa le y mae yr hanes yn diweddu a'r chwedl yn dechreu, gan mor gywrain y maent wedi eu cyfrodeddu â'u gilydd. Ychydig, mewn cymhariaeth, yw y ffeithiau sy genym yn nghylch y gwir Arthur; ac nid rhyfedd hyn, canys ychydig yn deneu o gofnodau perthynol i'r oes yr oedd ef yn byw ynddi sydd wedi dianc rhag traflwnc anniwall amser a dinystr gelynol dwylaw, a chyrhaedd yn ddiogel hyd ein hamser ni; ac nid oes lle i ammheu na chollwyd llawer o'r hanes gwirioneddol yn ystod yr amser yr oedd holl wledydd Cred wedi pendroni gan yr adroddiadau yn nghylch ei orchestion ffugiol

Yn ol yr hanesion y gellir ymddibynu oreu ar eu cywirdeb, Arthur ydoedd fab i Uthr Bendragon; ac yr oedd Uthr yn fab i Gystenyn Fendigaid, ac yn frawd i Emrys Wledig, yr hwn a oliannwyd ganddo megys brenin y Prydeiniaid o gylch O.C. 500. Nid yw yr holl achau, fel y gallesid yn hawdd dysgwyl, yn cytuno mewn perthynas i fonedd Arthur. Mewn un ysgriflyfr, rhoddir ei achres yn y wedd ganlynol, ac ymddengys cymaint o debygolrwydd o'i thu ag un o'r lleill, os nid mwy:—"Arthur ab Uthr, ab Cystenin Fendigaid, ab Cynor (neu Cynfor), ab Tudwal, ab Morfawr, ab cynan [Meiriadog], ab Eudaf, ab Caradog, Brân, ab Llyr Llediaith." Dywed y Dr. W. O. Pughe mai mab ydoedd Arthur i Meirig ab Tewdrig, un o dywysogion Deheubarth; ond y mae y Brutiau, yn gystal a'r hanesion mwy coeliadwy, yn erbyn yr ach hon; a dengys y Cadeirdraw Rees, yn ei waith godigog y Welsh Saints, a hyny i gryn foddlonrwydd, mai camsyniad yw hyn, wedi tarddu, mae yn dra thebyg, o gamgymeryd Arthur ab Uthr yn lle Arthur ab Athrwys, ab Ceneu, ab Coel, yr hwn oedd un o benaethiaid y Brython Gogleddol, ac yn byw o gylch yr un amser. Gwyddis yn dda ddigon fod yr holl ramantau yn galw Arthur yn fab i Uthr Ben- dragon; ac nid ymddengys fod sail ddigonol i anmheu eu cywirdeb yn hyn o beth.

Mam Arthur ydoedd Eigr, inerch Amlawdd Wledig, tywysog Prydeiniaid y Gogledd, yr hwn y mae son am dano yn Mabinogi Cilhwch ac Olwen. Yr Eigr hon yw Igerna y Lladin, ac Ygraine y rhamantau Ffrengig, y rhai a'i galwant hi y wraig brydferthaf yn Ynys Prydain. Yn ol y Brutiau, gwraig ydoedd Eigr ar y cyntaf i Gwrlais, Iarll Cernyw, yr hon a ddirfawr chwenychwyd gan Uthr; ac adroddant fwy na digon ddygwyddiadau dychymygol, er mwyn dangos pa fodd y daeth hi yn wraig i Uthr, ac felly yn fam i Arthur. Nid yw hyn ond peth a fuasem yn naturiol yn ei ddysgwyl; canys buesai yn annheilwng o grebwyll y rhamantwyr, pe dygasent Arthur i'r chwareufwrdd fel marwolion yn gyffredin. Rhaid gofalu am dipyn o'r rhyfeddol a'r rhamantus ar ei gyfer hyd yn nod cyn ei eni.

Dywedir yn rhai o'r hen gofysgrifau fod gan Arthur chwaer o'r enw Anna, yr hon a ymbriododd â Llew ab Cynfarch, brawd Urien Rheged, ac mai hi ydoedd mam Medrod, yr hwn a drodd mor anffyddlawn a bradwrus i'w ewythr a'i dywysog, ac a fu achos o'i dranc yn nghad drychinebus Camlan.

Nis gwyddis pa le y ganwyd Arthur; na phra bryd, gyda dilysrwydd y digwyddodd hyny. Y dyb fwyaf tebygol yw, iddo gael ei eni yn Nyfnaint neu yn Ngheryw, neu ar y cyffiniau hyny, o gylch diwedd y 5med ganrif. Dywed rhai, ac yn eu plith Griffydd ab Arthur (Sisffrai o Fynwy), mai yn Nhintagel, neu Dintagol, yn Ngheryw, y cafodd ei eni: ond y mae hyn, fel llawer peth arall a adroddir am dano, yn gyfryw ag a eill fod yn wirionedd, ond heb un prawf neullduol o'i blaid. Y mae yn werth sylwi fod adfeilion hen Gastell Tintagel yn dangos yn amlwg ddigon iddo fod, mewn oesoedd a aethant heibio, yn lle o fawr gadernid ac enwogrwydd. Saif yr hen furddyn ar ben craig uchel, yr hon sydd yn ymestyn allan i'r môr, gan yr hwn y mae agos a chael ei hamgylchynu. Sonia Carew a Norden hefyd am dano megys lle braidd anhygyrch; a geilw Leland ef yn amddiffynfa ryfeddol ei chadernid, ac wedi ei hadeiladu ar le oedd bron yn anoresgynadwy. Y mae Tintagel o fewn cantref Lesnewth (Llys Newydd), ac nid pell o hono yw bwrdeisdref Bossiney. Geill y lle hwn, cystal ag un man y gwyddis am dano, fod yn enidfan i Arthur, Beth bynag, dengys y Trioedd, yn gystal a'r rhamantau, fod cysylltiad neillduol rhyngddo ef a Chernyw; ac ni ddylid annghofio mai yno yr oedd Celliwig, yr hwn a nodir yn fynych megys un o'i brif lysoedd ef.

Diau fod Arthur yn hanu o un o linachau clodforusaf yr ynys yn yr oes hono; er bod un ymadrodd yn ngwaith Nennius fel yn awgrymu fod "amryw yn ardderchocach nag ef" (multi ipso nobiliores essent); sef, y mae yn debygol, fel y sylwa Carnhuanawc, o ran ei enedigaeth; ond dengys awdwr yr Eminent Welshmen (d.g. ARTHUR) y geill hyn fod yn cyfeirio ato megys un o feibion ieuaf i dywysog nad oedd ei hawl i benaduriaeth gyffredinol yn gyfryw ag a addefid gyda boddlonrwydd gan bawb o'r tywysogion eraill. Prawf yr holl achau yn ddigon boddhaol ei fod ef o freninol waedoliaeth, ac yn disgyn, lin o lin, o dywysogion a fuasent rymus a chlodfawr. Nid mab hynaf Uthr ydoedd, ac ar farwolaeth ei frawd y cafodd feddiant o orsedd ei hynafiaid. Wrth gymharu yr achau a hen gofysgrifau hanesol eraill, canfyddir fod teulu Arthur wedi ymgysylltu trwy briodas â rhai o dywysogion Gwent neu Essyllwg; a rhydd hyn drywydd i ni ar ei berthynas ef â Deheubarth Cymru; ac nid yw yn annhebyg mai y gyfathrach hon a fu yn achos iddo ymsefydlu yn Nghaerlleon ar Wysg, gan yr ymddengys fod y ddinas hono y pryd hwnw yn un o'r rhai mwyaf a phwysicaf yn yr holl Dywysogaeth. Nid oes achos gwadu cysylltiad Arthur â Chaerlleon yn unig oherwydd bod rhamantwyr y canoloesau wedi gwneuthur gormod o'r dref hono, yn gystal ag o'r gwron y dywedir ei bod hi yn brifddinas iddo. Arliwio ac nid ffugio ffaith a wnaeth y rhamantwyr yn y peth hwn, megys ag mewn llawer o bethau eraill; canys, yn gyffredin, goruch-adeiladaeth fawrwych yw rhamant wedi ei chodi ar symlig ffaith a gwirionedd.

Am flynyddoedd mebyd Arthur, nid oes genym ddim crybwylliad. Diau gael ohono ei addysgu yn y cyfryw wybodau ag a ddysgid yn yr oes hono i feibion tywysogion; ac yn mhlith y penaf o'r rhai hyn mae yn ddilys fod arfer trin y cleddyf a llywio byddinoedd ar faes y gad. Dyna ddull yr oes, y wlad, a'r genedl; ac amlwg yw, oni buasai ei fod wedi dangos mawr fedrusrwydd mewn cadofyddiaeth megys blaenor, yn gystal a dewrwychder megys milwr, ni ddyrchafasid mohono i fod yn gatteyrn y Prydeiniaid mewn cyfnod mor bwysig yn eu hanesyddiaeth.

Er bod yr ben Brydeiniaid, er yr amser cyntaf y mae genym son am danynt, yn arfer cael eu llywodraethu gan fan dywysogion neu benaethiaid annibynol, a'r rhai hyny yn rhy fynych yn ben yn nghad a'u gilydd; eto pan ymosodid arnynt gan elyn cyffredin (megys y Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid), annghofient eu mân ymrysonau, ac ymanent i ymladd yn wrol o dan faner un llywydd neu benciwdod cyffredinol, yr hwn a elw y Trioedd yn gatteyrn, neu frenin yn amser cad a rhyfel, pan ymosodid ar y wlad gan estron genedl; a chydymdrechent i osod terfyn ar yr ormes. Sonia y Trioedd am dri o wroniaid a gawsant eu hethol i'r fath swydd mewn amser o gyfyngder:—"Tri phrif gatteyrn Ynys Prydain: Caswallon ab Beli; Gweirydd ab Cynfelyn Wledig; a Charadawg ab Brân ab Llyr Llediaith." (Cyfres iii 24). Y mae un arall o'r Trioedd yn cyfeirio at yr un peth. Tri Unben Dygynnull Ynys Prydain: Cyntaf, Prydain ab Aedd Mawr, pan roddes deyrnedd ddosbarthus ar Ynys Prydain a'i rhagynysoedd; ail, Caradawg ab Brân, pan ddoded arnaw ef gatteyrnedd holl Ynys Prydain, er attal cyrch gwŷr Rhufain; ac Owain ab Macsen Wledig, pan gawsant y Cymry deyrnedd ym mraint eu cenedl eu hunain y gan yr Ymherawdr Rhufain: sef a'u gelwir y rhai'n y Tri Unben Dygynull, am eu breiniaw felly y gan ddygynnull gwlad a gorwlad dan holl derfynau cenedl y Cymry, a chynnal dygynull ym mhob cyfoeth, a chwmmwd, a chantref, yn Ynys Prydain a'i rhagynysoedd." (Cyfres iii. 34.)

Wedi ymadael o luoedd Rhufain â'r Ynys, nid hir y bu y Cymry heb gael eu gormesu gan elynion eraill, gwaeth, os oedd modd, na'r rhai a gefnasent arnynt. Hwn oedd gormesgyrch y Sacsoniaid, y rhai a heidiasant, fintai ar ol mintai, i'r Ynys hon tros For Tawch, o ardaloedd gogleddig yr Almaen. Buan y canfu'r brodorion, y rhai y pryd hwn oeddynt yn ammharod i ryfel, nad oedd gobaith heb gydwaith a chydymdrech i lwyddo yn eu herbyn; ac yn eu cyfyngder, etholasant Arthur i fod yn bencadlyw arnynt megys y gwnaethant dan amgylchiadau cyffelyb â Chaswallon a Charadog. Rhodded catteyrnedd yr Ynys ar Arthur; ac yr ydym yn darllen yn yr hanesion, cystal a'r rhamantau, fod breninoedd eraill yn ymladd o dano. Y faith hon, mae yn dra thebygol, yw gwreiddyn yr aneirif chwedlau yn nghylch yr amryw freninodd a dalent iddo warogaeth, ac a addurnent ei lys. Ethold y catteyrn, nid o ran helaethrwydd ei diriogaeth, lluosogrwydd ei ddeiliaid, neu urddasoldeb ei fonedd; ond oherwydd ei gadbwyll, ei wroldeb, a'i fedrusrwydd mewn rhyfel. Nid o hawl, ond o ddewisiad y penaethiaid eraill, y penodid un i'r swydd. Nid ymddengys fod teyrnas neu diriogaeth Arthur ei hun mewn un modd yn helaeth; ac nid yw hyd yn nod y rhamantau, y rhai a'i dyrchafant ef uwchlaw holl freninoedd a rhyfelwyr y byd, yn awgrymu rhyw lawer fod y diriogaeth yr oedd ganddo hawl etifeddol iddi yn eang ei therfynan; ond sylfaenir ei gled a'i ogoniant yn benat ar ei gadernid a'i wroldeb, ac ar ei fedr mewn rhyfel a chatteyrredd. Ymddengys, gan hyny, mai mewn rhyfel yn unig yr oedd ef yn frenin cyffredinol. Cyffelyb oedd ei sefyllfa a'i awdurdod ef i sefyllfa ac awdurdod Agamemnon yn ngwarchae Caerdroia. Brenin ar dalaeth fechan Mycena oedd hwnw yn ngwlad Groeg; ond yr oedd, o ddewisiad cyffredin y penaethiaid eraill, yn frenin breninoedd o flaen muriau anhydor Ilion.

Pa flwyddyn yr etholwyd Arthur i arwain cyfluoedd ei wlad yn erbyn gorddwy a gormes y Saison, nid yw hanesyddion yn cwbl gytuno. ol y Dr. W. O. Pughe, yn y fl. 517 y digwyddodd; ond yn ol Whittaker, yn 508. Yr hanesydd cyntaf sydd yn son am Arthur yw Nennius; ac i'r gwr hwn yr ydym yn ddyledus am y gofrestr gyflawnaf o'i orchestion milwraidd. Yr oedd Nenuius yn byw yn yr 8fed ganrif; ac y mae yn awr ar gael un llawysgrif o'i waith cyn hyned a'r 10fed ganrif, seť o fewn i bedwar can' m ynedd i amser Arthur, a mwy na chan' mlynedd cyn amser Gruffydd ab Arthur, ar yr hwn y tadogir nid ychydig o'r chwedlau yn nghylch y gwron. A ganlyn yw tystiolaeth Nennius am Arthur, ac am y brwydrau a ymladdwyd ganddo:

"Y pryd hwnw [gwedi son am Hengist], yr ymladdodd y rhyfelgar Arthur, yn nghyda milwyr a breninoedd Prydain, yn eu herbyn hwynt [y Saison], ac er bod amryw yn ardderchocach nac ef, eto bu ddeuddeg gwaith yn dywysog rhyfel, ac yn orchfygwr y brwydrau. Y frwydr gyntaf yn ei herbyn a ymladdodd gerllaw yr afon a elwir Glain (Glein, Glem, Glevi, Gleni). Yr ail, a'r drydedd, a'r bedwaredd, a'r bumed, ar afon arall, yr hon yn y Frythoneg a elwir Dulas (Duglas, Dubglas), yr hon sydd yn ardal Linnius (Linius). Y chweched frwydr a fu wrth yr afon a elwir Bassas (Lusas). Y seithfed frwydr a ymladdodd yn eu herbyn yn Nghoed Celyddon, hono yw Cad Coed Celyddon (Cat Coit Celidon). Yr wythfed frwydr a ymladdodd yn erbyn y Barbariaid gerllaw Castell Gwynion (Gunnion, Guinnon, Guinon, Guin), yn yr hon cludodd Arthur ar ei ysgwyddau ddelw Croes Crist, a'r Santaidd Fair, y Wyryf wastadol; a'r holl ddiwrnod hwnw y gyrwyd y Paganiaid i gilio; llawer a syrthiasant; a lladdfa fawr a wnaethpwyd arnynt, trwy rinwedd ein Harglwydd Iesu Grist, a'i fam santaidd Ef. Y nawfed frwydr a ymladdodd ef yn Ninas y Lleng, yr hon, yn iaith y Brython, a elwir Caerlleon. Y ddegfed frwydr a ymladdodd ef ar lan afon a elwir Rhybrwyd (Ribroit, Trathtreuroit) Yr unfed frwydr ar ddeg a fu yn y mynydd a elwir Bregwyn (Creguoin), lle y gyrwyd hwynt ar ffo, yr hon yr ydym ni yn ei galw Cad Bregwyn (Cat Bregion, Agued Cathregonnon, Cathregomion). Y ddeuddegfed frwydr, a hono o'r fath ffyrnicaf, a ymladdodd Arthur yn Mynydd Badon, yn yr hon y syrthiodd yn yr un amser naw cant a deugain o wŷr, trwy ei ruthr ef ei hun, heb neb o'r Prydeiniaid yn ei gynorthwyo. Yn yr holl frwydrau rhagenwedig, mynegir ei fod ef yn fuddugol bob amser, fel y bu amryw eraill o filwyr y Prydeiniaid. Eithr nid oes un dewrder na challineb a lwydda yn erbyn ewyllys Duw. Po mwyaf a leddid o'r Saison mewn brwydrau, mwyaf oll y chwanegid atynt o'r Almaen gan Saison eraill, yn ddibaid; a hwy a wahoddasant freninoedd a blaenoriaid atynt oddiwrth yn agos yr holl ardaloedd hyny. A hyn a wnaethant hyd yr amser y teyrnasodd Ida."

Y cyfryw yw yr hanes, megys y ceir ef yn ngwaith Nennius. Y inae cryn amrywiaeth yn enwau y lleoedd a'r afonydd hyn yn y gwahanol ysgriflyfrau (fel y dangosir uchod yn yr enwau sy rhwng crymfachau), fel nad yw yn hawdd gwybod på ffurf yw yr agosaf at gywirdeb; y mae yn anmhens hefyd am rai ohonynt på leoedd a olygir wrthynt; ac y mae'r dysgedigion yn gwahaniaethu yn ddirfawr gyda golwg ar y manan hyn: ond nid yw yn perthyn i amlinell o fath yr ysgrif hon, ymchwilio i'r naill na'r llall o'r pethau hyn. Nid oes nemawr o ddadl i fod yn nghylch y brwydrau, gan nad pa le yr ymladdwyd hwynt. Crybwylla Llywarch Hen (neu rywun dan enw y bardd hwnw) am un arall o frwydrau Arthur, yr hon a ymladdwyd yn Llongborth:

"Yn Llongborth llas i Arthur
Gwyr dewr, cymmwynynt a dur;
Amherawdr, llywiawdr llafur.'

Sonia Llywarch Hen am frwydr arall a ymladdwyd ganddo ar lan yr afon Llawen:

"Gwen with Lawen ydd wylwys neithwyr:
Arthur ai thechas
Aer a drawdd ar glawdd glas.

"Gwen wrth Lawen ydd wylwys belthwyr,
A'r ysgwyd ar ei ysgwydd:
A chau ba mab ym', bu hywydd.

"Gwen wrth Lawen ydd wyllis neithwyr,
A'r ysgwyd ar ynguis;
Can bu mab ym', ni ddiengls.

"Ond tybia rhai mai yr un yw y frwydr hon â'r frwydr gyntaf yn nghofres Nennius, ac felly mai yr un afon yw Llawen a'r Glain a grybwyllir yno. Sonia Gildas hefyd a Beda, ac eraill, am frwydr Mynydd Badon, a ymladdwyd yn erbyn Cerdig, blaenor y Saison, yr hon yw yr olaf yn nghyfrif Nennius; a chyfeiria Cynddelw, ac eraill o feirdd y canoloesoedd, ati gydag edmygedd. Ni chytunir yn hollol pa flwyddyn yr ynladdwyd y frwydr bwysig hon. Gesyd amryw haneswyr hi yn y flwyddyn 520; ond y mae yr Annales Cambria yn ei gosod mor gynar a 516. Dywed Gildas i'r frwydr hon gael ei hymladd yn y flwyddyn y anwyd ef; er nad yw ef, mwy na Beda, yr hwn oedd yn byw yn yr 8fed ganrif, yn son am Arthur wrth ei enw. Y mae y ffaith mai Sais oedd Beda, ac felly yn elyn i Arthur ac i'r genedl y perthynai iddi, yn ddigon o reswm am ei ddystawrwydd ef yn nghylch y gwron; ac er y cyfrifir Gildas yn Gymro, nid yw y gwaith sydd yn myned dan ei enw yn dangos nemawr o hynawsedd tuag at y Prydeiniaid, mwy na phe buasai wedi ei ysgrifenu gan rywun o estron genedl. Nid oes cymaint ag un wreichionen o wladgarwch yn ganfyddadwy yn holl lyfr Gildas; ac ni fedrai ef ganfod dim ond beian y bobl yr ysgrifenai yn eu cylch. Tybia llawer mai ffug yw y gwaith a briodolir iddo.

Y frwydr nesaf y mae genym hanes am dani, a'r olaf a ymladdodd Arthur, yw brwydr hygof ac alaethus Camlan. Ymladdwyd hou, tel yr ydys yn cyfrif yn gyffredin, yn y flwyddyn 542; ond, yn ol yr Annales Cambria, y rhai a gyfrifir gan rai yr awdurdod creu ar bethau o'r fath, yn 537 y digwyddodd, pum' mlynedd yn gynarach na'r amseriad cyffredin:—537, Gwaith Camlan, yn yr hwn y cydsyrthiodd Arthur a Medrawd; ac y bu marwoldeb mawr yn Ynys Prydain ac Iwerddon." Mewn ysgrif arall o'r un Cofnodau, rhoddir yr hanes beth yn helaethach, fel hyn:—"Brwydr Camlan, yn yr hon yr ardderchog Arthur, brenin y Brython, a Modred ei fradwr, a gyd. syrthiasant, gan yr archollion a gafodd y naill gan y llall." Yn gyffredin, priodolir yr achos o'r frwydr hon i fradwriaeth ac anffyddlondeb Medrod, neu Modred, mab Llew ab Cynfarch, a nai fab chwaer i Arthur. Ymunodd Medrod â'r Saison yn erbyn ei ewythr, a thrwy frad a gwrthryfel ceisiodd ddwyn ei orsedd, a chymeryd meddiant o honi. Fel hyn yr adroddir y trychineb a'r achos ohono yn y Trioedd:

"Triwyr gwarth a fu yn Ynys Prydain: * *Trydydd, gwaethaf fu Fedrawd, pan edewis Arthur lywodraeth Ynys Prydain ganthaw, pan aeth yntau drwy for yn erbyn Lles, Amherawdr Rhufain, a anfonasai genadau at Arthur hyd yng Nghaer Llion, i erchi teyrnged iddaw o'r ynys hon, ac i wŷr Rhufain, ar y mesur y talpwyd i Gadwallawn fab Beli hyd yn oes Cystenyn Fendigaid, taid Arthur. Sef yr ateb a roddes Arthur i genadan yr amherawdr, nad oedd well y dylyai wŷr Rhufain deyrnged i wŷr Ynys Prydain, nag y dylyai wŷr Ynys Prydain iddynt hwythau. Canys Brân fab Dyfnwal, a Chystenyn fab Elen, a fuasynt amherodron yn Rhufain, a dau wr o'r ynys hon oeddynt. Ac yna y lluyddodd Arthur orddetholwyr ei gyfoeth drwy for yn erbyn yr amherawdr; ac y cyfarfuant y tu hwnt i Fynydd Mynnau; ac aneirif o naddynt o bob parth a las y dydd hwnw.· Ac yn y diwedd y cyfarfu Arthur a'r amherawdwr, ac Arthur a'i Haddawdd ac yno y llas gorengwyr Arthur. A phan gygleu Fedrawd wahanu nifer Arthur, y dymchwelodd yntau yn erbyn Arthur, ac y dyunawdd Seison, Ffichtiaid, ac Ysgotiaid ag ef, i gadw yr ynys hon; ac yna y bu waith Camlan y rhwng Arthur a Medrawd, ac y İladdawdd Arthur Fedrawd, ac y brathwyd Arthur yn angeuol, ac o hyny y bu farw; ac mewn plas yn Ynys Afallach y claddwyd." (Cyfres ii 6.) Mewn un arall o'r Trioedd adroddir yr un ddychwaen, rywbeth yn wahanol, yn y wedd ganlynol:—

"Medrawd ab Llew ab Cynfarch, a gafas deyrnedd Ynys Prydain yn adneu-fraint, tra fai Arthur yn gwrthladd gwyr Rhufain y draw i Fynydd Mynnau, pan fynynt attychwel yn ormes i'r ynys hon. Ac yno y llas goreuon gwyr Arthur; a phan glybu Medrawd, ymgystlynu a'r Seison a orug, a pheri ymladd y Gad Gamlan, lle y llas Arthur a'i wŷr, namyn tri; ac o hyny ydd aethant y Seison yn ormesgyrch ar deyrnedd Ynys Prydain, a lladd a deol o genedl y Cymry y neb nad elai ganddynt, ac ni chaid namyn ciwdodau gwlad Gymru a fynynt wrthladd gormes y Seison: a gwyr Rhufain yn cadarnhau braint a thiroedd i'r Seison yn Ynys Prydain, mal pai y naill genedl ormes yn ymddyweddiaw â'r llall, onid aeth iddynt wŷr Rhufain, mal y modd y llosges cenfigen ei pherchen, o ddyfod yr Ormes Ddu arnynt." (Cyfres iii. 100.

Mewn ereill o'r Trioedd priodolir Cad Gamlan i ymryson Gwenhwyfar a Gwenhwyfach, gwragedd Arthur; ac oherwydd paham cyfrifir hi yn mysg yr "ofergadau," sef cadau a gawsant eu dechreuad mewn amgylchiadau dibwys a distadl.

"Tair ofergad Ynys Prydain:—Un fu Gad Goddau; sef y gwnaethpwyd o achaws gast, a'r iwrch fochyll, a chornicyll; yr ail fu gwaith Arderydd, a wnaethpwyd o achaws yr ehedydd: a'r drydedd oedd waethaf oll, sef oedd hono Camlan; a hono a wnaethpwyd o gyfrysedd Gwenhwyfar a Gwenhwyfach. Sef achaws y gelwid hwynt yn ofergadau, wrth eu gwneuthur o achaws mor ddiffrwyth â hwnw." (Cyfres i. 47.)

"Tair gwrdd balfawd Ynys Prydain:—Palfawd Metholwyd Wyddel ar Franwen, merch Llyr; yr ail balfawd a darewis Gwenhwyfach ar Wenhwyfar, ac o achaws hono y bu waith Camlan wedi hyny; a'r trydydd a darewis Golyddan Fardd ar Gadwaladr Fendigaid. (Cyfres i. 87.) Ond awgrymir mewn un arall o'r Trioedd hyn, ddarfod i Arthur roddi palfawd i Fedrawd, yn gystal a Gwenhwyfar i Wenhwyfach.

"Tri anfad balfawd Ynys Prydain:—Palfawd Matholwch Wyddel ar Franwen, merch Llyr; a phalfawd Arthur ar Fedrawd; a phalfawd Gwenhwyfar ar Wenhwyfach." (Cyfres i. 51.)

Oddiwrth y Trioedd hyn, yn gystal ag oddiwrth hanesion ereill, y mae yn amlwg ddigon i Fedrawd amcanu meddiannu yr orsedd a'r llywodraeth, pan oedd Arthur yn absennol ar ryw ryfelgyrch yn erbyn gelynion ei wlad. Geil! rhai o'r manylion yn y Trioedd fod yn chwanegion at y gwir, er mwyn addurn a rhamant; ond nid ymddengys un achos i anmheu y gwirionedd syml. Prin y medrai ysgrifenwyr y canoloesoedd adrodd un hanes heb ymgais at ei addurno a'i wellhau. Y mae pawb rhesymol yn cytuno ddarfod i Arthur gyfarfod â'i ddiwedd yng Nghad Gamlan; ac mai bradwriaeth Medrawd ei nai a fu yn achos o'r gâd gelaneddog hono. Cyfeiria'r beirdd yn fynych at drychineb alaethus y maes hwnw.

Llawer lef druan,
Fal ban fu'r Gamlan —GRIFFYDD AB YR YNAD COCH

A'm bu barid dadgan,
Adgygleu Camlan,
Adwelir griddfan
Ac anfyn gwynfan. —Y Fug-DALIESIN.

Un am fro Alan, elfydd can,
A Ffrainc yn frawddus fal Camlan —LLYWAROH &B LLEWELYN,

Lliw ten y gad Gamlan gynt -DAFYDD ab GWILYM.

Arthur o'i ddolur oedd wan,
Ac o ymladd Cad Gamlan —LEWIS GLYN COTHI.

Edwart wych a'r dur-wnew tan,
Gydag ymladd Gad Galan—OWAIN AB LLYWELYN MOEL,

Cael ar faes, coelier y fan,
Cadw ac ymladd Cad Gamilan —TUDUR PENLLYN.

Maneg aur, pan ymwonynt,
Llun yn Llan Gad Garlan gynt —DAFYDD AB EDMWND.

Brau cai ymladd brig Camlan,
Braisg wyd ym mysg y pysgod man —SION CERI

Nid yw sefyllfa Camlan yn hysbys. Gesyd rhai hi yn Ngogledd Lloegr, ac ereill yn y Gorllewin; ond y mae pwys y tebygolrwydd yn ddiau o blaid y Gorllewin yn hytrach na'r Gogledd; a thybia llawer mai yn agos i dref bresenol Camelford, yn Nghernyw, ar lan yr afon Camel neu Alan, yr hon, yn ol Camden, a elwid gynt Camblan, y cafod y frwydr ei hymladd. Y mae Camlan yn enw pur gyffredin yn Nghymru hyd heddyw.

Felly y syrthiodd y cadnerthol Arthur, trwy fradwriaeth gadarn un o'i gyfneseiliaid; a chydag ef y syrthiodd annibyniaeth Ynys Prydain.

Nid estrawn fu ei distryw,
Ond trefwr gwladwr—a glyw!
Ym mhob oes, er croes, er crain,
BADWYR a friwient Brydain.—GWALLTER MECHAIN.


Trwy y fradwriaeth ysgeler hon, enillodd Medrod iddo ei hun le ac enw ar lechres ddu y carn fradwyr," y rhai a fradychasant Ynys Prydain i ddwylaw gelynion.

Tri charmiradwr a fuaut achaws i'r Seison ddwyn coron Ynys Prydain oddi ar y Cymry:—Ail ydoedd Medrawd, a roddes ei hun a'i wyr yn un a'r Seison er cadarnhau iddaw y deyrnedd yn erbyn Arthur; ac achaws hyny o frad ydd aethant laweroedd iawn o'r Lloegrwys yn Seison." (TRIOEDD: Cyfres iii. 45.)

Er bod y clwyf a dderbyniodd Arthur yng Nghamlan yn glwyf marwol, eto dywedir iddo fyw ychydig amser ar ol ei dderbyn, ac iddo yn y cyfamser gael ei gludo i Ynys Afallon neu Afallach, yr hon a elwir hefyd Ynys Wydrim, yng Ngwlad yr Haf, lle y bu farw ac y claddwyd ef. Gan fod traddodiad mai yn y lle hwn y claddesid y Brenin Arthur, gwnaed defnydd o'r amgylchiad i ateb dyben llywodegol gan Harri II., brenin Lloegr, yn y flwyddyn 1179. Gwyddai Harri fod coel ymhlith y Cymry nad oedd Arthur wedi marw, ond y buasai iddo yn fuan ail ymddangos yn eu plith, ac adferyd iddynt unbenaeth Ynys Prydain; a pha beth a wnaeth y brenin Seisouig ond cymeryd arno iddo gael gafael ym meddrod Arthur, a'i agor. Dywedir wrthym gan Giraldus Cambrensis, yr hwn oedd yn y fan a'r lle pan agorwyd ef, iddo weled esgyrn a chleddyf Arthur, a bod croes blwm wedi ei suddo yn y beddfaen a'r ysgrifen hon arni;

"Hic jacet sepultus inclitus Rex Arturius in Insula Avalonia." Sef yw hyny: "Yma y gorwedd yn gladdedig y clodfawr Frenin Arthur yn Ynys Afallon." Y mae yr hen hynafiaethwyr, megys Leland ac eraill yn son am y darganfyddiad hwn megys faith nad oedd neb yn ei hamheu; ac nid ymddengys fod neb o honynt wedi cymaint a llettybio nad oedd y cyfan ddim ond cast cyfrwys o eiddo brenin Lloegr, er mwyn argyhoeddi y Cymry, a barent gymaint anesmwythder iddo, fod Arthur wedi trengu yr un fath â marwolion ereill, ac nad oedd gobaith iddynt y gwaredai ef hwynt, fel y dysgwylid, o dan warog a gorthrymder y Seison. Digon tebyg i Giraldus gael ei dwyllo yn gystal ag ereill. Nid ymddengys ei fod yn adrodd ond yr hyn a welodd; ond pa fodd y daethai yr esgrrn, y cleddyf, a'r groes i'r fan lle yr oeddy t, a phwy a'i gosodasai yno, nid ymddengys iddo ef erioed ymboli. Oes hygoel i'r eithaf oedd yr oes yr oedd Giraldus yn byw ynddi: a hawdd iawn y derbynid twyll yn lle gwirionedd. Ymwelwyd drachefn a'r gweddillion hyny gan Iorwerth I. a'i frenines, a dadgladdwyd hwynt ganddynt.

Cofnoda y Trioedd dair o wragedd i Arthur, a phob un o'r tair yn dwyn yr enw Gwenhuyfar; sef Gwenhwyfar, merch Gwythyr ab Greidiol; Gwenhwyfar, merch Gwryd Gwent (neu Gawryd Caint); a Gwenhwyfar, merch Gogyrfan Gawr. Ond yn ol eraill o'r Trioedd, Garenharyfach y gelwid un o honynt. Od oes dim cael ar yr hyn a adroddir yn yr hen gofion triol hyn, nid rhyw hynod o ddedwydd yn ei gysylltiadau priodasol y bu Arthur; ac y mae dwy linell o anughlod i un o'i freninesau ar gof gwlad a gwerin hyd y dydd heddyw:—'

"Gwenhwyfar, merch Gogyrfan Gawr,
Drwg yn fechan, gwaeth yn fawr."

Ac y mae y cyfeiriad hwn, fel y sylwa Carnhuanawc, yn cytuno â'r cymeriad a roddir yn y rhamantau Ffrengig i frenines Arthur, y rhai a'i harddangosant megys un nodedig am ei hanniweirdeb, yn gystal ag am gynllwyn a chyfrwysdra; ac yn gysson â hyn gellir nodi, fod "yr hen Wenhwyfar; yn enw o ddirmyg ar wraig hyd y pryd hwn mewn llawer parth o Gymru. Ond yn y Mabinogion Cymreig y mae Gwenhwyfar yn llawer syberwach dynes. Dywedir i esgyrn Gwenhwyfar gael eu darganfod gyda rhai Arthur gan y brenin Harri II., a bod gwallt y frenines wedi para hyd y pryd hwnw yn felyn ei liw, ac yn hardd yr olwg arno.

Nid fel rhyfelwr dewrwych yn unig y saif Arthur yn y Trioedd; ond cyfrifir ef yno hefyd yn mysg yr "oferfeirdd," sef beirdd nad oeddynt lenorion wrth eu galwad:

"Tri oferfeirdd Ynys Prydain:—Un, Arthur; ail, Cadwallawn ab Cadfad; trydydd, Rhyhawd ei: Morgant Morganwg." (Cyfres ii. 123). Ac y mae ar gadw dair llinell sydd yn cael eu tadogi arno, y rhai, meddir, a gânt ef i dri o'i gedyrn nerthol:

"Sef ynt fy nhri Cadfarchawg,—
Mael Hir, a Llyr Lluyddawg,
A cholofn Cymru, Caradawg."

Ond go afraid crybwyll, mai cyfansoddiad pur ddiweddar mewn cymhariaeth yw y llinellau hyn; a diau na chlywyd son am danynt hyd ym mhen rhai cannoedd o flynyddau ar ol marwolaeth Arthur.

Y pethau blaenorol yw y cyfan y gellir, gyda gradd o ddilysrwydd, ymddibynu arno megys gwir hanes Arthur. Nid oes un ysgrifenydd cyfoesol iddo yn crybwyll am dano; o leiaf nid oes dim o waith y cyfryw wedi disgyn hyd atom ni; oddieithri ni gyfrif gwaith Llywarch Hen yn awdurdod mewn perthynas iddo. Ond y mae yn amlwg i bawb diragfarn, cydnabyddus â'n hen ysgrifeniadau, nas geill y cyfansoddiadau sydd yn myned dan enw y bardd hybarch hwnw fod, yn eu diwyg presenol, yn perthyn i'r chweched ganrif, na thebyg y fath beth; ac nis gwyddys fod ar gael un ysgrif o honynt hynach na'r Llyfr Coch o Hergest, yr hwn a ysgrifenwyd yn y 14eg a'r 15fed ganrif. Nis gellir, o'r herwydd, gyfeirio at ganiadau Llywarch megys awdurdod hanesol gyda golwg ar ddygwyddiadau y chweched ganrif. Nennius gan hyny yw yr ysgrifenydd hanesol cyntaf sydd yn ei enwi; ac byd yn oed yn ei amser ef, ymddengys fod y gwirionedd yn ei gylch yn dechreu cael ei arliwio, megys, er enghraifft, pan ddywed yr hanesydd hwnw ddarfod i Arthur ladd a'i law ei hun gryn wyth gant a deugain o'r Seison yn ymladdfa Ynys Badon. Ceir enw Arthur yn fynych (er nad mor fynych ag y gallesid dysgwyl) yng ngwaith beirdd y canoloesoedd; ond gan nad oeddynt hwy gyfoedion iddo, nac yn byw yn agos i'w amser, ni byddai ond anfuddiol eu dyfynu.

Weithiau rhaid gadael ffaith, ac olrhain ychydig ar ffug mewn perthynas iddo; ac os prin yw defnyddiau ei wir hanes, y mae y ffughanesion am dano cyn lluosoced, fel y mae yn anhawdd iawn dethol y pethau nodedicaf o honynt.

Yn fuan wedi cwymp Arthur ar faes anffodus Canlan, ennillodd y Seison y llaw drechaf yn yr ynys hon; llethwyd ei rhyddid, cyfarsengwyd ei thrigolion, a dystawyd llais ei beirdd; ac y mae y wlad, mewn golygiad gwladwriaethol yn gystal a llenyddol, yn diflanu, bron, o'r golwg am rai canrifau. O'r chweched hyd y deuddegfed ganrif gorchuddiwyd Prydain gan fentyll dudew y nos; ac nid Prydain yn unig a aeth i gysgu yn ystod y tymmor hwn, ond canfyddwn y cyffelyb gysgadrwydd wedi ymdaenu dros holl gyfandir Ewrop. O ran dim gorchestion meddyliol, gellir dywedyd fod Ewrop oll yn huno mewn trymgwsg trwy gydol yr amser hwn. Ond yn ddisymwth, o ddentu dechreu y 12fed ganrif, y mae deffroad cyffredinol yn cymeryd lle, a chloion cwsg yn cael eu dryllio yn chwilfryw; rhoir y meddwl ar waith, dattodir ilyifetheiriau yr Awen, a dysgir iddi ymddyrchafu ar adenydd rhyddion darfelydd. Yn uniongyrchol ar ol y dadebriad a'r adfywiad dan sylw, yr ydym yn canfod golygfa nad oes mo'i chyffelyb ar holl ddalenau hanesyddiaeth. Y mae Arthur a Marchogion y Ford Gron yn cyfodi ar unwaith i sylw, yn eu llawn faint ac yn eu holl urddas a'u hardderchogrwydd. Hwynt—hwy yw testyn cerdd, a chwedl, a rhamant, o'r naill gwr o Ewrop i'r llall; ac nid yw Asia yn rhy bell i glywed son am eu gwrhydri a'u gorchestion. Yr ydym yn eu canfod ar unwaith yn wroniaid y byd; ac y mae y sylw a'r edmygedd a delir iddynt braidd yn ddifesur. I'r fath raddau o enwogrwydd yr oedd y Brenin Arthur wedi cyrhaedd yn y canoloesoedd, fel y mae Alan de Insulis, ysgrifenydd o'r cyfandir yn y 12fed ganrif, yn gofyn am dano yn y wedd ganlynol: "Canys i ba le ni ddygwyd ac ni chyhoeddwyd enw Arthur y Prydeiniaid, gan glodforedd hedegog, cyn belled ag y cyrhaedd ymherodraeth Gristionogol? Pwy, meddaf, nid yw yn siarad am Arthur, gan ei fod, braidd, yn fwy adnabyddus i genedloedd Asia nag i'r Prydeiniaid, megys y traethir i ni gan ein pererinion a ddychwelant o'r parthau dwyreiniol? Y Dwyreinwyr a siaradant am dano, ac felly y gwna y Gorllewinwyr, er cael eu gwahanu oddiwrth eu gilydd gan holl led y ddaiar. Sieryd yr Aipht am dano, a'r Bosphorus nid yw ddystaw; Rhufain, arglwyddes y dinasoedd, a gân ei orchestion; ac nid yw rhyfeloedd Arthur guddiedig oddi wrth Cartheg, ei chydgeisyddym gynt. Moliannir ei weithredoedd ef gan Antiochia, Armenia, a Phalestina."

Yn y rhamantau hyn yr ydym yn ei weled, yng ngeiriau Carnhuanawc, nid megys blaenor ar ryw lwyth bychan o bobl, yn cyfaneddu mewn cwr pellenig o'r byd, ond fel penadur goruchel, ac ymherawdr mewn enw ac awdurdod, yn anghymharol mewn pob peth a ystyrid yn anrhydedd yn yr oes hono, yn tramwy y gwledydd gyda rhwysg goresgynydd anwrthwynebol; ei lys yn ymgynullfa i ddewrion y byd; a'i Farchogion ef yn ddewraf o honynt; ac yntau ei hun yn rhagori arnynt oll mewn gwroldeb a phob milwraidd gampau. Gwelwn ef hefyd yn cael ei amgylchu gan fodau tra anghyffredin eu hanianawd,— dewiniaid, ellyllon, a'r Tylwyth Teg. Ceir ei enw yng nglŷn â chestyll, mynyddoedd, a meini, yn y fath fodd ag na ddygwyddodd i ran un dyniolyn arall a welwyd ar glawr daiar. Ac yn rhwysg amser, i'r cyfryw faintioli y tyfodd ef yn nwylaw y rhamantwyr hyn, fel y coffeir am dano megys cawr anferthol, yn taflu creigiau, a meini hirion, o benau y bryniau ym mhell i waelodion y dyffrynoedd isod.

Y mae y rhamantau yn gystal a'r hanesion, megys yr awgrymwyd eisioes, yn gwneuthur Arthur yn fab i Uthr Bendragon ac Eigr; ac nid anghofiant ddywedyd i'w enedigaeth gael ei dwyn o amgylch trwy offerynoliaeth hud a lledrith Myrddin. Pan yn bymtheg oed esgynodd i'r orsedd ar farwolaeth ei dad, a choronwyd ef yn Nghaerlleon ar Wy Wysg gan Ddyfrig, archesgob yr esgobaeth hono. Yn union ar ol ei goroni ymgyrchodd yn erbyn y Seison dan Colgrin, a gorthrechodd hwynt yng nghyd â'r Ysgotiaid a'r Brithwyr, ar lanau yr afon Dulas, yng Ngogledd Lloegr. Gorchfygodd hwynt drachefn yn Nghaer Lwydgoed (Lincoln) lle y syrthiodd chwe' mil o'r gelynion; a'r canlyniad a fu, iddynt orfod gadael Lloegr, a rhoi i fyny ei hol! feddiant. o honi, ac ymrwymo anfon iddo ef deyrnged o'r Almaen, gan roddi gwystlon iddo am gyflawniad eu haddewid. Ond fel y gallesid dysgwyl, torodd yr anwariaid eu cyfammod ag Arthur, hwyliasant o amgylch yr ynys i Ddyfnaint, a thiriasant yn Totness. Prysurodd Arthur a'i luoedd yn eu herbyn hwynt yno; rhoddes gad ar faes iddynt ym Mynydd Badon, lle y gorchfygodd ef hwynt â lladdfa fawr; lladdodd ef 470 o'r gelyn â'i gleddyf Caledfwlch a'i waew Rhongymyniad. Yn nesaf, prysuro dd i Ogledd Prydain, i ryddhau Caer Alewyd, prif ddinas Prydeiniaid Gogledd yr ynys, yr hon yr oedd yr Ysgotiaid a'r Brithwyr yn gwarchae arni. Gwedi en gorchfygu, ymlidiodd hwynt hyd yn Llyn Llumonwy, lle y darparodd lynges, ac y parodd i'r gelyn ymostwng iddo. Gwedi hyny, trodd ei wyneb tua'r Dehau, a chadwodd wyl Nadolig yng Nhaer Efrog, lle y tynodd demlau Paganaidd Seisonig i lawr, ac yr adeiladodd Eglwysi Cristionogol yn eu lle. Yr haf canlynol, efe a orchfygodd Iwerddon; ac yna dychwelodd i Brydain, lle y treuliodd ddeuddeng mlynedd mewn heddwch a thangnef. Gwedi hyn cadgyrchodd yn erbyn Norwy a Gal, a ba naw mlynedd cyn iddo eu llwyr orchfygu. Yna efe a ddychwelodd adref, ac a gynnaliodd wledd fawr yng Nghaerlleon, lle yr amgylchynid ef gan luaws o freninoedd, y rhai oeddynt dan deyrnged iddo. Buan ar ol hyn, dechreuodd y Rhufeiniaid ofyn teyrnged ganddo; cynnullodd yntau lu dirfawr, a chroesodd i dir Gal, lle y gorchfygodd holl fyddinoedd ymherawdr Rhufain. Pan oedd yn parotoi i groesi Mynydd Mynnau; rhwng Gal a'r Ital, clywodd am y gwrthryfel oedd wedi tori allan ym Mhrydain dan arweinial ei nai Medrod, yr hwn oedd wedi ymuno â'r Seison, y Brithwyr, yr Ysgotiaid, a'r Gwyddelod, yn ei erbyn ef. Prysurodd i dir ei wlad ar unwaith, ac ennillodd ddwy fuddugoliaeth ar ei elynion, y naill ar oror Caint, a'r llall yn agos i Gaerwynt, pryd y gorfu ar Medrod a'i gymhlaid ffoi i Gernyw; ac yno, ar lan Camlan, yr ymladdwyd y frwydr ddiweddaf iddo.

Y cyfryw yw sylwedd y Brutiau Cymreig mewn perthynas i weithredoedd Arthur; ond y maent hwy yn adrodd yr amgylchiadau gyda llawer o fanylrwydd, fel y buasai pob sill o honynt yn ffeithiau diymwad. Adrodda y Mabinogion a'r Rhamantau luaws mawr o bethau na sonir am danynt yn y brutiau.

Megys nad yw bywyd Arthur megys bywyd marwolion ereill; felly hefyd nid yw ei farwolaeth fel y mae marwolaeth pob dyn, Rhaid cael rhamant yn ei farwolaeth yn gystal ag yn ei fywyd; ac am hyn gwir a ddywed yr hen weithyn a elwir Hanes Diwedd Arthur:—"Gnawd yw dywedyd llawer o bethau anfedrus am ddiwedd Arthur; ac yn enwedig chwedleuon Prydeiniaid, a amrysonant amdaw, ac a gadarnhânt ei fod yn fyw." Tystiolaeth y Rhamantan am ei ddiwedd sydd i'r perwyl hyn. Arthur, wedi deall ei fod wedi derbyn clwyf marwol gan Fedrod, a geisiodd gan Syr Bedwyr, un o'i farchogion urddol, gymeryd ei gleddyf Caledfwlch, a'i daflu i'r llyn a elwai efe iddo, Bedwyr, ar hyny, a gymerodd y cleddyf, ac a aeth tua'r llyn a grybwyllasid wrtho; ond wrth edrych ar y cleddyf gedidog hwnw, a chanfod ei wychder, a sylwi fod ei garn wedi ei harddu à meini gwerthfawr, bu anfoddlawn ganddo ei daflu i'r llyn, a chuddiodd ef dan bren, a dychwelodd, gan ddywedyd daflu o hono y cleddyf i'r llyn. Gofynodd y brenin iddo pa beth a welsai: ac atebodd yntau has gwelsai ef ddim ond y dwfr a'r tonau. Ar hyn dywedodd y brenin wrtho ei fod yn ei dwyllo; a gorchymynodd iddo fyned, yr ail waith, a chyflawni ei ddymuniad. Aeth Bedwyr; ond eto nis gallai glywed ar ei galon daflu y fath gleddyf gwerthfawr i'r llyn, a dychwelodd drachefn â'r un atebion i Arthur. Yna y cyhuddodd y brenin ef o frad a thwyll, ac o chwenychu y cleddyf oherwydd ei werthfawredd; a pharodd iddo fyned drachefn, a chyflawni ei orchymyn. Aeth Belwyr y tro hwn, safodd yn ymyl y llyn, ac a'i holl nerth taflodd y cleddyf iddo, cyn belled ag y gallai. Ac fel yr oedd Caledfwlch yn disgyn, wele law a braich yn dyfod allan o'r llyn, ac yn ymaflyd ynddo gerfydd ei garn, a chan ei ysgwyd dair gwaith mewn dull milwraidd, tynodd y llaw of dan y dwfr, ac ni welwyd mo hono mwyach. Pan ddychwelodd Bedwyr, a mynegu hyn i Arthur, ceisiodd Arthur ganddo ei ddwyn ef at y llyn. A phan ddaethant yno, gwelent wrth yr ymyl fâd bychan, ag amryw rianedd ynddo, oll mewn gwisgoedd duon; ac yn eu plith yr oedd brenines. Pan welsant hwy Arthur, yr wylasant oll, ac y llefasant â llef uchel. Yna, ar gais Arthur, gosododd Bedwyr ef yn y bâd; a thair brenines a'i derbyniasant ef, ac un o honynt a'i cyfarchodd ef, gan ei alw yn frawd. Hon oedd Maryam la Ffai, chwaer Arthur; a'r ail oedd frenines Gwynedd; a'r drydedd oedd frenines y Tiroedd Anial. Ac yr oedd yno hefyd Nimwe, prif arglwyddes y llyn, yr hon a briodasai un o farchogion Arthur. Ar ol myned Arthur i'r bâd, rhwyfodd y rhianedd ynaith oddiwrth y tir; a dywedodd Arthur wrth Bedwyr ei fod yn myned i Ddyffryn Afallon, i gael gwella ei glwyf. A Bedwyr, wedi colli golwg ar y bad, a aeth ymaith i'r goedwig.

Dywed Syr Thomas Maelor, o waith yr hwn y dyfynwyd y rhan fwyaf o'r pethau blaenorol, na fedrodd ef ddyfod o hyd i chwaneg na hyn yn nghlych diwedd Arthur. Ond yr oedd chwedl yn cerdded, fod meudwy yn byw yn y coed, ac yn dywedyd ddarfod y noswyl hono, yn nghanol y nos, i nifer mawr o rianedd ddyfod â chorff marw ato, gan geisio ganddo ei gladdu; a meddyliai mai corff Arthur oedd; ond, medd yr awdwr, rhai a ddywedant mewn amryw fanau o Brydain, nad yw y Brenin Arthur farw, ond y daw drachefn i gyflawnu gwroldeb A dywed amryw fod geiriau i'r perwyl hyn yn gerfiedig ar ei feddrod:——" Yma y gorwedd Arthur, Brenin gynt, a Brenin i ddyfod.' Ond y dyb gyffredin am dano ydoedd, ei fod yn byw yn ngwlad y Tylwyth Teg, gyda'i hen gyfeillion mewn mawr hyfrydwch, yn aros yr amser pryd y byddai iddo ddyfod drachefn i blith dynion; canys credid y deuai, ryw amser, i deyrnasu ar y Prydeiniaid, ac i'w harwain drachefn yn erbyn eu gormeswyr, gyda dirfawr rwysg a buddugoliaeth mawr. (Gweler Hanes Cymru, t.d. 265, 266.)

Hwyrach i'r grediniaeth nad oedd farw Arthur gael ei dechreuad ar faes Camlan, yng ngwaith y cadfridogion, fel y gallwn dybied (ac fel y gwnaed yn fynych wedi hyny), yn cadw clwyf angenol neu farwolaeth Arthur yn anhysbys i'r milwyr cyffredin, rhag eu digaloni ar faes y gad; ac oherwydd hyny, cadw ei feddrod yn ddirgel. Gwedi dechreu taenu y chwedl nad ydoedd ef wedi marw, ac yr ymddangosai drachefn, cadwyd y ffug i fyny gan benaethiaid y genedl, er attal y cyffredin bobl rhag ymostwng i lywodraeth y Seison. Y mae yn ymddangos gan hyny mai yn mhlith y Prydeiniaid yr ymgododd y grediniaeth yn anfarwoldeb Arthur, ac anhysbysrwydd ei feddrod, ac nid ym mhlith rhamantwyr y Cyfandir: ac yn unol â hyn yr ydym yn darllen yn yr hen gyfansoddiad a elwir "Englynion Beddau Milwyr Ynys Prydain," y mynegia canlynol mewn perthynas iddo:—

"Bedd i March, bedd i Gwythur,
Bedd i Gwgan Gleddyfrudd;
Anoeth byd bedd i Arthur

Nid ymddengys i Arthur adael plant ar ei ol, o leiaf nid oes iddynt safle mewn hanesyddiaeth. Sonir yn Llyfr Teilo am rodd i Eglwys Llandaf, o diroedd yn Mhenfro, gan "Noe fab Arthur;" ond nis gwyddys chwaneg am dano, os nid efe a roddes ei enw i "Flaen Gwaith Noe ab Arthur," yn agos i Lanbedr Felffre, yn y swydd hono. Yr unig un arall o'i hiliogaeth y mae un crybwylliad am dano, yw "Llecheu, mab Taiiesin," yr hwn yn y Trioedd a elwir yn un o "Dri Deifnogion Ynys Prydain," y rhai oeddynt, Gwalchmai ab Gwyar; a Llecheu ab Arthur; a Rhiwallawn Wallt Benadlen." Sonir hefyd am dano yn Mabinogi "Breuddwyd Rhonabwy," ac yn "Ymddyddan Gwyn ab Nudd a Gwyddno Garanhir." Syrthiodd ym Mrwydr Llongborth, ac felly bu farw o flaen ei dad.

"Mi a wn lle y llas Llechau,
Mab Taliesin, uthr yng ngherddau;
Ban ryerynt brain ar grau.'

Cleddyf Arthur, fel y crybwyllwyd, a elwid Caledfulch; ei darian, Prydwen; ei waew (neu gadfwyell), Rhongymmynian neu Rhongymmyniad, neu Bongogoniant; ei ddager, Carnwenan; ei longau, Gwibliant, Caswenan, Gorwenan, Gwenan, Torogan, Gwionan a Hwylwenan; ac enw ei gaseg ydoedd Llamre.

Nid yw hyn oll ond crynodeb byr o hanes Arthur. Ysgrifenu ei hanes yn gyflawn a fyddai ysgrifenu hanes chwedl a rhamant o'u dechreuad hyd y pryd hwn; ac ysgrifenu hyny a fyddai ysgrifenu rhan fawr o hanes llenoriaeth Ewrop er dechreu y ddeuddegfed ganrif. Y neb a fync astudio y pwnc yn mhellach, ymgyghored, ym mhlith eraill, â'r gweithiau canlynol:—Y Mabinogion, gan yr Arglwyddes Guest; Y Greal (llawysgrifen yn llyfrgell Peniarth); Y Brutiau Cymreig yn y Myf. Arch. cyf. ii.); a Brut Lladin Gruffydd ab Arthur; Essay on Welsh Tradition, gan Schulz (cyfieithiad Seisonig Mrs. Berrington); Hanes Cymru, gan Carnhuanawc; Welsh Saints, gan y Proffesor Rees; Cambrian Plutarch, gan J. H. Parry; Cambrian Biography, gan y Dr. W. O. Pughe; Eminent Welshmen, gan y Parch. Robert Williams; Nernius, gan W. Gunn; Life of Arthur, gan Ritson; History of the Anglo—Saxons, gan Sharon Turner; History of English Poetry, gan Warton; Literary Remains y Parch. T. Price (Carnbuanawe); History of Fiction, gan Dunlop; ac eraill. Ac i amryw o'r awduron hyn yr ydys yn ddyledus am gryn gyfran o'r erthygl flaenorol.

Nodiadau

[golygu]