Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Arwystli Gloff

Oddi ar Wicidestun
Arwystli (Hugh) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Arwystli Hen

ARWYSTLI GLOFF. Mab ydoedd i Seithenyn, yr hwn a gyfenwir Seithenyn Feddw, a brodyr iddo ydoedd Gwynodl, Merin neu Merini, Senefyr, Gwyndeg, Llibio, Tudur, Ynyr, Tudglwyd, Tudno, a Tyneio. Yr oedd ei frodyr oll yn perthyn i Fangor Iscoed, yr hon oedd hynod o enwog o dan arolygiad Dunawd tua'r pryd hwnw. Ond aelod oedd Arwystli o Fangor Enlli. Dywedir iddo sefydlu Eglwys, ond ni sonir n mha le. Quid ar ei enw ef y galwyd rhan o Faldwyn yn Arwystlif Yr oedd yn ei flodau yn nghanol y chweched cant.

Nodiadau

[golygu]