Golwg ar ei Gariad

Oddi ar Wicidestun

gan Gutun Owain

Y ddyn â'r santaidd anwyd,
o Dduw! hudolesaidd wyd.
Mae gennyd, tau ysbryd da,
oes, iaith y gŵr o Sithia.
Delw ddoeth hudolaidd iawn,
dillynes a dwyll uniawn.
Dy ddrem gellweirgar arab
loywddu fwyn a laddai fab.
Mi a nodais amneidiau
a wnaud im, ai un ai dau:
nodi golwg anwadal,
nodi twyll amneidiau tâl.
Darllain yr ael fain, f'annwyl,
a'i selu gaf Sul a gŵyl;
euraid ysgrifen arab,
awgrym merch i garu mab.
Dy weled yn dywedyd
ydd wyf fi fal y ddau fud.
Ni wŵl annoeth eleni
synhwyrau'n amneidiau ni.
Dywed air mwyn â'th wyneb
o'th galon im, ni'th glyw neb.
Ti a wyddost, wyt addwyn,
ddywedyd ar y mynud mwyn;
ef a ŵyr y galon fau
dy feddwl ar dy foddau.
Llygaid a ddywaid i ddoeth
synnwyr lle nis cais annoeth -
lleddfon dröedyddion drych,
lladron a fyn lle i edrych.
Myfi a ŵyr ysbïo
ar y drem bob cyfryw dro.
Edrych arnad, cyd gwadaf,
dan gêl yng ngŵydd dyn a gaf:
un edrychiad pechadur
ar nef cyn goddef ei gur;
golwg Dafydd ap Gwilym
o gwr ael ar Ddyddgu rym;
golwg mab ar ddirgeloed,
golwg gwalch ar geiliog coed;
golwg lleidr dan ei 'neidrwydd
ar dlysau siopau yw'r swydd;
golwg hygar garcharor
ar ddydd drwy gysylltau'r ddôr.
'Y nyn, er na chawn ennyd
un gair o 'mddiddan i gyd,
ni a gawn drwy flaenau gwŷdd
roi golwg ar ei gilydd.
Mynud a ddywaid mwynair
heb wybod rhag athrod gair.
Oes dyn islaw yr awyr,
(nac oes!) onid mi, a'i gŵyr?
Un ddichell ac un gellwair
ydym 'i, myn Duw a Mair,
un awenydd, un weniaith,
un fwynder ar ofer iaith.
Un a Thri ein gweddiau
yn un dyn a'n gwnêl ni'n dau!