Gorffen Crwydro

Oddi ar Wicidestun

GORFFEN CRWYDRO

CERAIST ti grwydro gwledydd pellennig,
Y gwledydd sy mhell tros y don;
Weithiau dychwelit i'th gartre mynyddig
A'th galon yn ysgafn a llon.
Gwelsom di ennyd cyn dychwel ohonot
I'r rhyfel sy'n crynu y byd;
Nodau y gwlatgar a'r beiddgar oedd ynot,
Y nodau sy'n costio mor ddrud.
Fe chwyth y corwynt tros fryniau Trawsfynydd
O'th ôl fel yn athrïst ei gainc
Tithau yng nghwmni'r fataliwn ddi-hysbydd
Sy'n cysgu'n ddi-freuddwyd yn Ffrainc.