Gorhoffedd (Gwalchmai ap Meilyr)

Oddi ar Wicidestun

gan Gwalchmai ap Meilyr

Moch dwyreawc huan, haf dyfestin,
maws llafar adar, mygar hear hin;
mi ytwyf eur ddetyf, diofyn yn rin,
mi ytwyf llew, rac llu lluch vyg gortin.
Gorwylyeis nos yn achadw fin,
gorloes rydyeu dyfreu dyfyr dygen ureitin,
gorlas gwellt didrif, dwyfyr neud yessin,
gwylein yn gware ar wely lliant,
lleithyryon en plauwr, pleidyei etrin.
Pellynnic vyg khof yg kynteuin,
yn ethrip caru Kaerwys vebin.
Pell o Uon uein yduyti, dwythwal werin,
essmwyth yssyt ynn asserw gyfrin.
Yt endeweis eneu yn echyssur gwir
ar lleueryt lles Ywein, hael hual dilin:
dychysgogan Lloegyr rac uy llain.


Llachar uyg cleteu, lluch yt adrwy glew,
llewychedig eur ar uyg kylchwy;
kyn uu westlawc dyuyr, dyt neud gawy,
cathyl oar adar awdyl ossymwy.
Goruynnhic uym pwyll ym pell amgant hetiw
wrth athreityaw tir tu Efyrnwy.
Gorwyn blaen auall blodeu uagwy,
balch acen coed, bryd pawb parth yd garwy.
Caraf Gaerwys vun venediw deithi,
cas gennyf genthi y gynhelwy.
Genilles am llif, ked am llatwy; ar eir
y muner nyd mawr ymi vy gofwy.
Gwynn y uyd padiw Duw ragwy
rieinged rwych wyry wared lywy.


Llachar vyg cletyf, lluch y annwyd yg cad;
llewychedig eur ar uy ysgwyd.
Lliaws am golwch nym gwelsant yr moed;
o rianet Gwent gwylld ym krybwylleid.
Gweleis rac Ywein Eigyl eu hatoed
ac o du Ribyll rebyt yg greid.
Gwalchmei ym gelwir, gelyn y Saesson,
ar lef gwledic Mon gweint yn plymmwyd.
Ac yr bot llywy lliw eiry ar goed,
pan vu aer rac caer kyuoryeis waed.


Gwaedreit uyg cletyf a godrut yg cad;
yg kyuranc a Lloegyr llawr nyd ymgut.
Gweleis o aruod aeruab Gruffut
riallyoet trwch, tebed ossut;
gweith Aber Teiui, terrwyngad Ywein,
gwynnderyn Prydein, priodawr ut,
gorisymet glyw oe glywed yno,
rac gorwyr Yago gwyar drablut.
Gwalchmei ym gelwir, gal Edwin ac Eigyl,
ac y gynnhwryf llu hud wyf llofrut.
Ac ysymy dystyon am testun ganthut
o essillyt Kynan koelig dadhanut;
ac yr bot am denneirch o du balchure Ureityn
nyd athechaf drin drwy ym gythrut.
Carafy eos Uei uoerhun lut
a golygon hwyr hirwyn y grut.
Caraf eilon mygyr meith arnadut,
eilywed asserw a seirch kystus…


Lluch uyg cletyf, uyg keinyaw ny llwyt;
ny llutyaf ym llaw llat, nys gweyr.
Gweleis angert ri rac kreic Gwytyr,
pan amwyth ut Mon, maws oe dymyr.
Gweleis yn Rutlan ruthyr flam rac Ywein
a chalanet rein a rut uehyr.
Gweleis yn ymo yn amrygur,
tewi gannyw a wyr o anystyr;
torred Caer Vyrtin yg gwrtrin gwyr,
gortyar y dreis Emreis erye.
Dychludet teyrnet teyrnged itaw,
gweldic Aberfraw a gwald Ynyr.
Endeweisy eaws am rhyiraeth yr gwyl,
gweilgig porfor, pwyllad uyuyr;
pell nead hunawc gwenn, gogwn pa hyr.
Pan deurictrawd blawd blaen euellgyr
bod ewynawc tonn tu Porth Wygyr.
Bid sswyssawc serchawc bannawc breuyr;
breutwydyaw yr bun balchliw aryen dos
ys odidawc nos, neu ym hepkyr…


Dymhunis tonn wyrt wrth Aberfraw,
dychyrch tir termud, dychlut anaw,
diessic yd gan ednan arnaw.
Argoed nwy asswe asserw yndaw,
eil wytle didrif, didwryf gyuyaw,
adawd ym gwrthawd gwrthred hotyaw.
Angertawl vy march ymaes Caeaw
ar lles ner Kynan kynwetyawn faw,
arglodic Gwendyd gwynn assy met pawb,
Prydein allwedawr, oll yn eityaw.
Endeweisy eryr ar y ginyaw dyuyn,
dyreith Gwynet gwyar itaw.
Pan amwyth Ywein eur a threui Dinbych,
dyt yn ystrad aessawr dreulyaw,
dybrysseis ynneu yn aroloet y Eigyl.
Dyurydet yn Lloegyr rac llywbyr vy llaw,
derllytid uyn detyfuyn dewissaw
yg Gadellig uro Dyssiliaw.


Dymhunis tonn wyrt wrth Aber Deu,
dchyrch glan glafwyn glwys yfrydeu,
diessic yd gan ednan eneu;
adawd yn gwrthrawd gwrthred gereu.
Adwen gwellt didrif pan dyf dieu,
adwen balch caen coed cadyr y ulodeu,
adwen yueisy vet ae venestri o sur
yn llys Ywein hir hywr didideu.
Dym gwallouyed y win oe wenn adaf ut,
yn Arounic caer ger Hiryell beu.
Derllessid ym llaw llad ym goteu
yg gweith Maes Carnet can ureyreu.
Dy hepkyr alaf elyf donyeu,
dychlud clod Brydein bedrydaneu,
dygwystlir itaw o Din Alclut goglet,
Dreic yw yn dyhet, drawen yn deheu.


Aduwyn kynteuin kein hindyt,
araf erif haf hyfryd dedwyt;
aduwyn dydaw dyuyr, dychwart gwyrt wrth echwyt
Oguanw a Chegin a Chlawedawc drydyt.
Dymhunis tonn mor ymerweryt,
o Aber Menai mynych dyllyt;
dy goglat gwenyc gwynn Gygreawdyr Vynyt,
morua rianet Maelgwn nebyt.
Neu dreitysy tra Lliw Lleudinyawn dreuyt,
neu dremurth eurawc caer Arferyt.
Ac wrtyf kyuerchyt o dernet Pyrdein
Pa vronn heilin haelaf y ssyt,
A minheu ym kyhut heb gewilyt
Ef ytoet Ywein hir hywystyl bedyt.
Ac amdawd o wun nenwawl defnyt
a dyfnwys a mi meith gerennyt,
ac ymdaerawd y dreul o dra newyt,
ac amrant hirwrwm a grut hirwlyt;
ac yn llys afneued ym eitunir,
hynoeth oeth dybytaf o dybwyf ryf;
ac os Duw o Nef neu ym kynnyt,
keinoud gan lywy ymy lawr ym hunyt.