Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth/Unig Ferch Y Bardd

Oddi ar Wicidestun
Y Gofuned Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Goronwy Owen

Y Farn Fawr


Unig Ferch y Bardd

(a fu farw yn 17 mis oed yn Walton Ebrill 1755)

MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'rhyd f'wyneb
 Rhed afonydd heilltion;
 Collais Elin, liw hinon,
 Fy ngeneth oleubleth lon!

 Anwylyd, oleubryd lân,
 Angyles, gynnes ei gwên,
 Oedd euriaith mabiaith o'i min,
 Eneth liw sêr (ni thâl sôn):
 Oedd fwyn 'llais, addfain ei llun,
 Afiaethus, groesawus sŵn,
 I'w thad, ys ymddifad ddyn!

 Amddifad ei thad, a thwn
 Archoll yn ei friwdoll fron;
 Yng nghur digysur, da gwn,
 Yn gaeth o'm hiraeth am hon.

 Er pan gollais 'feinais fanwl,
 Gnawd yw erddi ganîad awrddwl,
 A meddwl am ei moddion;
 Pan gofiwyf poen a gyfyd,
 A dyfryd gur i'm dwyfron,
 A golyth yw y galon
 Erddi ac amdani'n don,
 A saeth yw sôn,
 Eneth union,
Am annwyl eiriau mwynion—a ddywaid,
A'i heiddil gannaid ddwylo gwynion,

Yn iach, f'enaid, hoenwych fanon,
Neli'n iach eilwaith, lân ei chalon,
Yn iach, fy merch lwysfach, lon,—f'angyles,
Gorffwys ym mynwes monwent Walton.

Nes hwnt dygynnull at saint gwynion,
Gan lef dolef dilyth genhadon;
Pan roddo'r ddaear ei gwâr gwirion,
Pan gyrcher lluoedd moroedd mawrion,
Cei, f'enaid, deg euraid goron—dithau,
A lle yng ngolau llu angylion.