Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth/Y Gwahodd

Oddi ar Wicidestun
Y Maen Gwerthfawr Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Goronwy Owen

Y Gofuned


Y Gwahodd

(At gyfaill a weithiaíi yn y Mint),

PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf,
A gŵr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf innau.
A thi'n Llundain, ŵr cain cu,
Ond gwirion iawn dy garu?
Ond tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.

Dithau ni fynni deithiaw
O dref hyd yn Northol draw,
I gael cân (beth diddanach?)
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd, hyd y flwyddyn,
Yw troi o gylch y Tŵr Gwyn,
A thorri, bathu arian
Sylltau a dimeiau mân.
Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach.
Dyfydd o fangre'r dufwg,
Gad, er nef, y dref a'i drwg.
Dyred, er daed arian,
Ac os gwnei, ti a gei gân,
Diod o ddŵr, doed a ddêl,
A chywydd ac iach awel,
A chroeso calon onest
Ddiddichell — pa raid gwell gwest?
Addawaf (pam na ddeui?}
Ychwaneg, ddyn teg, i ti;
Ceir profi cwrw y prifardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi, o'n cain adail,
Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail,
A diau pob blodeuyn
A ysbys dengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan Iôr—Duw a'i gwnaeth.
Blodau'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant;
Hardded wyt ti, 'r lili lân,
Lliw'r eira, uwchllaw'r arian,

Cofier it guro cyfoeth
Selyf, y sidanbryf doeth.

Llyna, fy nghyfaill annwyl,
Ddifai gwers i ddof a gŵyl.
Diffrwyth fân flodau'r dyffryn,
A dawl wagorfoledd dyn;
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd;
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Yfory oll yn farw wyw.
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai'r harddaf,
Edwi, 'n ôl dihoeni haf.
Tyred rhag troad y rhod,
Henu mae'r blodau hynod.
Er pasio'r ddau gynhaeaf,
Mae'r hin fal ardymyr haf,
A'r ardd yn o hardd ddi-haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrddail yn deg irdda
Eto, ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gaeaf,
Y rhos a holl falchder haf
Y rhos heneiddiodd y rhain,
A henu wnawn ni'n hunain,
Ond cyn bedd, dyna 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi:
Dybid in' ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Mynd yn ôl, cyn marwolaeth
I Fôn, ein cysefin faeth.

Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cydyrfa,
Crist yn nef a'n cartrefo,
Wyn fyd! a phoed hynny fo."

Northolt 1755