Neidio i'r cynnwys

Goronwy Owen a'r Morrisiaid

Oddi ar Wicidestun
Goronwy Owen a'r Morrisiaid

gan Owen Gaianydd Williams

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Goronwy Owen
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Morysiaid Môn
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Y Traethodydd
ar Wicipedia

Y TRAETHODYDD

CYF. LXXVIII. RHIF 346. IONAWR, 1923.



GORONWY OWEN A'R MORRISIAID

YN gyntaf i gyd, dymunaf ddiolch i'r Prifathro J. H. Davies, M.A., am gyhoeddi "Llythyrau'r Morrisiaid," heb ofni'r gost, nac arbed trafferth. Gwn fod y diolch yn hen, ond ceidw dymuniadau da yn burion hyd a fynner. Gwasanaeth da oedd i lên Cymru, ac yn arbennig i hanes moesol Mon yn y 18fed ganrif. Yn ymarferol, y mae yn y Llythyrau ddalen newydd o hanes Goronwy Owen, a moddion i derfynu hen ddadleuon. Daw ynddynt rhyw weddill o ffeithiau i'r golwg, ac wrth eu gosod ynghyd, ymddangosant yn ddolennau rhyddion a digadwyn, yn llysoedd brawd cymeriad y Bardd. Honnwyd yno lawer tro, mai esboniad y barnwr ar eu tystiolaeth oedd eu tystiol aeth hwy eu hunain. Ni chwynasant rhag neb, ni chollasant eu hamynedd; ond cadwasant eu cofion yn bur, ac yn rhodd ddiddorol i bob oes a estynno ei dwylo ati.

Dylem bellach, yng nghymdogaeth deucanmlwydd geni Goronwy roddi rhyddid teg i bob ffaith i lefaru drosti ei hun, ac i argyhoeddi'n ddiragfarn. Buont yng ngharchar yn rhy hir, yn gaethion a ddefnyddiwyd droeon i wasanaethu opiniynau.

Nifer y Llythyrau yn y ddwy gyfrol yw 605. Llythyrau teulu ydynt i gyd oddigerth un neu ddau, a salmau galar y teulu yw cynnwys y rhai a ysgrifennwyd gan law estron. Er fod y rhif yn fawr, nid yw ond cyfran.

Y mae eto nifer dda o lythyrau i gyfeillion heb eu cyhoeddi. Beth am y pentwr na welodd neb hwynt? A ddiangasant hwy rhag tân? Mae llythyrau William ar gregyn a ffosilod i Bennant yr hanesydd? O'r nifer uchod, ysgrifennodd William 420, sef 315 i Rhisiart, 97 i Lewis, ac 8 i John Owen ei nai, mab mwyn ei chwaer Elin. William, hyd y mae'r llythyrau yn profi, oedd y gyrrwr llythyrau amlaf, a Rhisiart y derbyniwr amlaf. Beth bynnag, rhagorodd arnynt i gyd am gadw'r epistolau a anfonid iddo. Ceidwad y Dollfa yng Nghaergybi oedd William, hon oedd ei swydd gyflog. Yr oedd ganddo swyddi trafferthus eraill, swyddi amser segur. Yr oedd y garddwr goreu yng Ngwynedd, yn ail i Bennant am hel cregyn, ac yn gan gwell na haid o Wyddelod am adnabod llysiau eu gwlad eu hunain, er eu bod yn athrawon llysiau yng ngolegau "Dulun." Rhwymodd glwyfau bobl Caergybi am chwarter canrif, a hyd y gwelaf ef oedd unig feddyg y dref dô gwellt 'radeg honno. Ysgrifennodd gyfrolau o farddoniaeth hen feirdd Cymru, a chafodd hamdden mewn rhyw gysylltau i ysgrifennu cannoedd o lythyrau byw a diddorol. Aeth Rhisiart i Lundain yn 1742, yn fachgen 19eg oed. Ni welodd Ynys Fon hyd ei fedd, ac ni chroesodd Gerrig y Borth yn ei ol gymaint ag unwaith. Collodd anian ei hen gynefin, gwreiddiodd ym mywyd Llundain; ond ni chollodd ei gariad at ei bobl, nac at lên ei genedl chwaith. Gwr distaw ydoedd, a chwrtais, yn cadw ei hanes iddo ei hun. Priododd yn 1729, yn fuan ar ol Lewis; ond ni chlywodd John ei frawd mo'r stori hyd yn gynnar yn 1740. Os drwg gyda John, 'roedd yn waeth gyda William, ni chlywodd ef hi hyd 1742, er ei fod yn ameu. Pan briododd y drydedd wraig, ni fynegodd hynny i William hyd amser geni'r trydydd plentyn, yr hwn a synnodd, am na wyddai fod y fath bobl yn y byd. Er cadw dirgelion teulu rhag ei gilydd, ysgrifennent yn aml y naill at y llall, a chwedleuent ddigon am deuluoedd eraill. Fel rheol, gwŷr diwyd yw gwŷr distaw, a gwŷr caredig yw gwŷr cwrtais. Felly Rhisiart. Ni fagodd Mon garedicach mab na Rhisiart Morris. Gweithiodd ddydd a nos i ennill arian, a rhannodd hwy i Gymry a ddelai i Lundain i chwilio am waith, yn y Nafi gan amlaf, hyd at dlodi ei deulu ei hun. Chwiliodd am swydd i lawer llanc o Gymro, a chadwodd hwy hyd oni chaffent gyflog eu gwaith i gadw eu hunain. Dwrdiodd Lewis ef yn chwerw, a chyhuddodd ef o roddi arian ei blant i ddynion segur a meddw. Bu am flwyddyn yng ngharchar Fleet Street am ddyled gwr a'i twyllodd. Yn ei olwg ef, nid priodol oedd hel arian a'u gadael ar ei ol yn bentwr i'r plant. Ei wasanaeth ef i Dduw oedd ei gymwynasau i ddynion. Twyllwyd ef gan wreng a bonheddig, ond ni chollodd ei ffydd yn nynion, ac nid oerodd ei gariad at ei genedl dlawd, er iddo ei chael hithau'n ddigon gwamal. Croniclodd William iddo'n ffyddlon am flynyddoedd hanes ei hen gymdogaeth, a champau ei hen gymdogion. Anfonodd iddo hanes y teulu, eu llwydd a'u haflwydd, ym Mhentre Rianell, ac ymhob man yn y wlad i gyd. Ni ddigwyddodd hap nac anhap i'r un o'r hil, nad esboniodd William ef i'w frawd yn ei dull ei hun, ac yn iaith lafar Ynys Fon.

Ysgrifennodd Lewis Morris 214 o'r Llythyrau, a 134 o'r rheiny i William i Gaergybi. Ofnaf fod swrn dda o epistolau teulu Lewis ar goll, er nad oedd angen iddo ef ysgrifennu cyn amled, am ei fod ol a blaen rhwng y De a Llundain, a rhoddai ambell dro i'r Gogledd. Pynciau mawr Lewis yn aml yn ei lythyrau maith, fel rheol, fyddai, pa fodd i wella'r fygfa a'r peswch, a pha fodd i ennill ei gyfreithiau anniben. Ni choncrodd y peswch, ac ni choncrodd ei elynion cyfraith chwaith yn llwyr. Yr oedd yn llenor da, cystal, a gwell na neb yn ei amser. Dangosodd fedr fawr i feirniadu, a chraffter i esbonio geiriau yn ei amser ef, er fod y cwbl erbyn hyn yn ddigon hen ffasiwn. Gwr dawnus yn ei lythyrau oedd John, y mwyaf naturiol o'r pedwar, a bardd digon cymwys. Torrodd angau ef i lawr cyn iddo gyrraedd tir sobrwydd, y cyfnod hwnnw ar fywyd a wnaeth ddynion o'r tri brawd arall.

Ysgubor yw y Llythyrau, a agorwyd fel o newydd, yn cynnwys crewyn da o yd cymysg, heb ei nithio, ond yn llawn o rawn er hynny. Yn ymarferol, cynhwysant hanes o chwarter canrif, rhwng 1740 hyd, dyweder, 1765. Hanes traddodiadau yw yn colli'r dydd, a phywerau newydd yn dechreu ennill goruchafiaeth, awr dywyll hen fywyd y wlad, ac awr bore ei bywyd newydd. Nid ysgrifennodd neb eto chwedl bywyd aflwyddiannus y tri brawd, oherwydd yn yr epistolau hyn y mae hi'n ymguddio. Dyma encilion eu hymdrechion diflin. Gwerinwyr oeddynt, nid o anian ond o radd, a hanes ymdrech gwerinwyr digefn ym myd swyddogaeth wleidyddol Prydain yw eu chwedl. Onid ymwerthodd y wlad i hwliganiaeth, meddwdod a breibiau yn amser William Pitt? Wrth freibio yr oedd y wladwriaeth yn byw. Er craffed oedd eu meddyliau, er cwrteisio'n fonheddig, er llawer dyfais dda, er ymrwbio mewn swyddwyr uchel ac arglwyddi teg, ni chawsant risyn o dan eu traed i esgyn i fyny. Gwelsant lawer gweledigaeth deg draw ymhell tu hwnt i'r cymylau. Ond delai rhyw wynt anweledig, a gyrrai'r cymylau at ei gilydd i guddio'r loeren wen, a lladd eu gobaith o flaen eu llygaid. Rhan a mwyniant cyfoethogion oedd braster y wlad yr adeg honno, a'u hil hwy oedd yn yr olyniaeth i bob bendith wladol. Nid oedd gwir deilyngdod yn cyfrif dim, nawdd y cefnog a gwobr yr ariangar oedd popeth. Gwyddent hwy'r drefn, ond methasant ei harfer o ddiffyg digon o ddwfr ar yr olwyn, ac oherwydd lliw'r gwaed.

Gwerinwr oedd Goronwy, heb liw ar waed ei wythiennau, nac arogl âch uchel arno ef, nac ar ei dadau. Na chamfarned neb Oronwy. Nid ei fuchedd oedd anhap ei fywyd, ond camwedd ei oes. Yr oedd ei fuchedd anffodus yn gynnyrch teg ei oes ymhob peth; ond buchedd yr oes yn y pot pridd ydoedd, nid yn y pot pres. Onid ydym ninnau heddyw'n codi i swyddau, ac yn maddeu pechodau, ar bwys y pot pres? Gwaed uchelwyr oedd yn offeiriaid yr Eglwys. Cododd ym Mon fwy o offeiriaid nag odid un sir yng Nghymru o Gromwel hyd ganol y 18fed ganrif, ond meibion ei thirfeddianwyr oeddynt bod ag un. Hyd y gwn, ni chododd neb tlawd i'r offeiriadaeth ond Goronwy. Yn yr oes honno, ni fedrai tirfeddiannwr clyd arno feddwl gwrando'r Efengyl o enau mab ei denant, neu fab gwas ei denant.

Ni ysgrifennwyd hanes bore Ymneilltuaeth Mon; yn y Llythyrau hyn y mae'r ddalen gyntaf. Eglwyswr selog oedd William Morris, cyfaill calon i'r Parch. Thoma's Ellis, B.D., ficar Caergybi, a gwr crefyddol yn ei oes. Dylem bellach ystyried tystiolaeth pobl am eu henwad eu hunain. Ni ddywed neb y caswir am ei bobl, ond ar ei waethaf. Ymdrechodd yr Eglwys yn deg i roddi Beiblau i'r bobl, ac ymdrechodd y Parch. Griffith Jones â'i ysgolion i ddysgu'r bobl eu darllen. Ond yr oedd grym moesol gweinidogaeh yr Eglwys ym Mon yn eiddilach nag yr ysgrifennodd neb am dani. Yr oedd y werin yn dlawd, yn feddw ac yn anniwair. Canai'r "llanciau tywod" a'r "merched nyddu " eu meddyliau aflan; cymhellent ei gilydd i ddrygioni â chaneuon gwaith. Clywodd Goronwy hwy a ffieiddiodd eu dyrïau anwylion. Nid oedd meddwi'n bechod yn neb; ond yr oedd anniweirdeb yn ei ddosbarth ei hun yn bechod i foneddwr ac offeiriad. Duon oedd eu gwisgoedd hwythau, ac y mae pechodau athrawon yn athrawon pechodau. Cynhelid y gwylfabsantau ar y Sul, a chofiai Caergybi am Sul y creiriau. Gwelodd William ei wlad annwyl yn newid, ac ymlonnodd yn ddirfawr. Gwelodd ias gwanwyn y bywyd newydd yn ei Eglwys ei hun, ac yn offeiriaid ei eglwys ei hun. Yr oedd yno ddau neu dri o offeiriaid yn wir ddiwygwyr, er yn wrthwynebwyr selog i'r Methodistiaid. Parch i'r Sul oedd eu rhinwedd cyntaf, a pharch i'r Eglwys a'i hordeiniadau oedd yr ail.

Diddorol i Gymru gyfan, i gyhoeddwyr llyfrau'n anad neb, fyddai dalen o hanes llên ein cenedl yn ol y Morrisiaid yng nghanol y 18fed ganrif. Soniwn heddyw'n slip am lyfrau a gyhoeddwyd yn eu hamser, heb gofio am yr anawsterau, nac am amgylchiadau'r wlad. Pryd hwnnw, nid oedd yng Nghymru un newyddiadur i gyhoeddi pethau da am lyfr cyn ei eni; na threnau chwaith i gario llyfrau i wlad a thref cyn i'w cloriau glan frychu. Cludid Beiblau â llongau o Lundain i Gaergybi; ac oddi yno gwasgerid hwy'n bynau ceffylau ar hyd y wlad. Cyhoeddid "cynygion," fel eu gelwid, a chwilotid y wlad am danysgrifwyr, a'r rheiny yn nwylo'r ceiswyr enwau fel esgus i guddio eu swildod. Gofynnid tâl ymlaen llaw, pan geffid hynny, oherwydd mai pobl dlodion oedd y cyhoeddwyr, heb arian i dalu am argraffu. Hugh Jones, Llangwm, dlawd, a gyhoeddodd y "Diddanwch Teuluaidd." Ef ai fab hefyd a'i cariodd yn feichiau i'r derbynwyr. Dafydd Jones o Drefriw, dlawd, a gyhoeddodd "Y Flodeugerdd," a stiward stât Gwydyr a gasglodd rai o'r dyledion yn lle rhent. Yn yr amser hwnnw y cyhoeddwyd Beiblau 1746 a 1752; "Geiriadur" Richards, Coychurch, 1753; "Blodeugerdd," Dafydd Jones o Drefriw, 1759, a'r "Diddanwch Teuluaidd," 1763. Dalen ddiddorol yw hanes eu cyhoeddi. Pobl yn cyhoeddi un llyfr oedd awduron yr oes honno, fel rheol—yr oedd un llyfr yn ddigon o faich i ddyn am ei oes heb ddim ychwaneg. Baledi gwacsaw oedd beiblau'r bobl. Cenid rheiny gan glerfeirdd, a gwerthid hwy o ffair i ffair. Difyrrion y gwr bonheddig a'r offeiriad oedd llyfrau, ond nid oedd rheiny i gyd yn awchus iawn amdanynt. Ystôr doreithiog yw y Llythyrau hefyd o hanes cymdeithas Mon, ei phobl a'i phethau, yn hanner olaf oes William Morris. Nid oedd y brodyr yn wleidyddwyr selog. Fel rheol rhoddent eu pleidlais yn y cafn pobi. Gwrthododd eu tad ddilyn yr arfer hon unwaith, a chafodd rybudd i ymadael o Bentre Rianell. Buddiol yn eu golwg oedd cymod pawb, a chas neb. Bu etholiadau blin ym Mon yn eu hamser. Nid Chwigiaid na Thoriaid oedd pleidiau Mon ar y pryd, ond cyfeillion a gelynion. A chan mai gelyniaeth bersonol rhwng boneddigion yr Ynys oedd asgwrn cynnen yr etholiadau, diwedd pump neu chwech o'r etholiadau'n olynol oedd petiswn i'r senedd yn erbyn yr aelod newydd. Pobl Niwbwrch oedd yn cynneu'r tân. Elent hwy bob tro i Fiwmaris fel bwrdeiswyr, a mynnent bleidleisio, er wedi hen golli eu dinasfraint. Gwelir yma hanes heintiau blinion ar ddyn ac anifail, hanes hafau sychion a thesog, hanes gaeafau rhewllyd, a'r bwyd yn brin. Cofnododd brisiau. bwyd y bwrdd a dillad y cefn. Pryd hwnnw, masnachai Mon ar ei throed ei hun. Elai llongau'n gyson o Gaergybi, Cemlyn, a Dulas i Afon Gaer a Liverpool i werthu yd, a phrynu yd i hau ar dymhorau celyd. Delai masnachwyr Ynys Manaw (Isle of Man) i'r wlad, i hel archebion am nwyddau, a gyrrent eu gweision coeg i hel y dyledion, y rhai a godent lawer chwaneg trwy gam achwyn. Ni chollodd yr Ynys lên gwerin y 18fed ganrif. Cadwyd ef yn ei iaith ei hun yn y llythyrau byw. Gwelir yma hen draddodiadau'n anwylo hen ofergoelion, hen chwareuon, ond a elwid yn chwareu tennis," a chwareu pel," a dechreu pob llwyddiant oedd cael "y bel ar dô." 'Roedd iaith y bobl 'radeg honno'n frith o eiriau estron, rhai yn hir a dieithr, heb ddim yn galw am danynt. Daethant yno, fel ar eu tro, heb arf nac arfer o dan eu dwylo. Ni newidiodd iaith lafar yr ynyswyr ond ychydig er's cant a hanner o flynyddoedd. Ysgrifenasant yn eu hymadroddion lawer o ddiarhebion y wlad, a chan eu bod yn gymenddoeth a phert, cyfansoddasant lawer o ddiarhebion eu hunain.

Crwydrais ddigon bellach, fel gwr yn son am ffeithiau ar antur, heb feddwl am gasglu un math ohonynt i bwrpas neilltuol. Ond fy amcan yw casglu darnau hanes Goronwy at ei gilydd o lythyrau'r tri brawd, a'r darnau sy'n cyd-daro o'i lythyrau yntau, gan roddi iddynt gyfle i gyd adrodd eu tystiolaethau am gysylltiad y gŵyr hyn o Fon a'i gilydd, a gwasanaeth y Morrisiaid i Oronwy. Cyfnod byr o'r bywyd ydyw, dim ond saith mlynedd a hanner o amser ar y goreu; ond cyfnod y barddoni, a'r "coledd cail," er hynny. Nid yw ffeithiau cysylltiad y cyfeillion yn ddieithr i ni i gyd. Bu rai ohonynt yng nghloriannau cofiannwyr, a phawb, trwy gymorth eu pwysau eu hunain, yn eu cambwyso yn eu tro. Onid yw beirniadaeth Cymru'n oriog fel yr awen, yn boeth ac oer bob yn ail? Hi a â allan lawer tro, fel milwr i amddiffyn ei wlad, ac amcan ei barn yn ei chalon cyn cychwyn. Yn ol gwŷr yr oes o'r blaen, rhagluniaeth bywyd Goronwy oedd gofal Lewis Morris. Heddyw ymgroesir rhag meddwl yn dda amdano, a gelwir ef yn athrodwr cymeriad y bardd mwyaf a gododd ym Mon. Na chwyned neb, nid ysgrifennwyd hanes y Morrisiaid eto, na hanes Goronwy chwaith.

Rhannwyd y cyfeillion hyn, a chamfarnwyd hwy. Ysgrifennwyd amdanynt heb gofio eu hoes. Darluniwyd hwy yn ol safon biwritanaidd canrif ddiweddarach. Daliwyd eu buchedd yn wyneb rhinweddau na wyddent hwy ddim amdanynt, yn wyneb meddyliau oes newydd; am hynny darnguddiwyd eu beiau yn hytrach na'u cyfaddef. Pobl oes Pitt oeddynt, Pwtt fel y galwent hwy ef, amser y gwelid arweinwyr y wladwriaeth yn rhonco feddw ar heolydd Llundain. Oni chyhoeddid ar arwyddfyrddau tafarnau yn y dyddiau hynny, y ceid ynddynt ddigon o ddiod am ddwy geiniog i feddwi'n dda, a digon am dair i feddwi'n farw, a gwellt i orwedd ynddo ar y fargen? Onid oedd darllawdai'n perthyn i bob Coleg yn Rhydychain a Chaergrawnt? Onid oedd yr athrawon a'r disgyblion yn cyd-botio, a chydfeddwi hefyd? Nid athrawdai oedd y colegau hynny ar y pryd, ond mannau i raddio bechgyn a ddysgwyd yn dda yn yr Ysgolion Gramadeg. Cododd y nefoedd eithriadau moesol yn yr oes honno, hi a'i cododd, ac eithriadau oeddynt.

Beirdd oeddynt, beirdd yn ol patrwm beirdd yr oesau gynt, ac arfer beirdd pan gynhyrfid hwy, oedd lliwio'n danbaid. Nid wrth liw ffaith y mae barnu'r ffaith ei hun. Canodd Goronwy gywydd, pan oedd barrug ar ei galon, i Lewis Morris, ei hen gyfaill, a lliwiodd hi'n fflamgoch, nes y gwelodd yn briodol ei galw'n Gywydd i Dd-1; ond cred pawb, hyd yn oed heddyw, mai cywydd i Lewis Morris ydoedd. Gwyddai'r brodyr hynny'n dda. Tâlodd Lewis i'w hen gyfaill y pwyth yn ol hyd yr eithaf, hyd oni chollwyd Goronwy'r offeiriad bucheddol yn y bardd meddw. Arwriaeth beirdd yn afiaeth tymherau drwg oedd y campau hyn. Ond nid wrth dywydd noson o ddrycin, y mae ysgrifennu hanes hin gwlad. Darlun du yw darlun Lewis o Oronwy yng Nghymdeithas y Cymmrodorion, ond digon gwir, er bryntni'r adrodd. Bu'r brodyr yn ddigon gonest i addef hefyd i Rhisiart feddwi droeon yn yr un Gymdeithas, gan gysgu tu allan i ddrws ei dŷ ei hun, hyd oni ddelai'r "curwr i godi" heibio, a'i ddeffro o drugaredd. Meddwodd William Morris droeon, ac edliwiodd iddo ei hun yr ynfydrwydd, nid oherwydd fod y meddwi'n bechod yng ngolwg ei gydwybod, ond am y byddai ei gorff yn ddrwg ei hwyl am ddyddiau ar ol yr asbri anghynefin. Rhinwedd diweddar yw Dirwest, rhinwedd gogoneddus a dyfodd yn Ymneilltuaeth y wlad. Bu amser pan roddid cwrw fel lluniaeth gymedrol i Weinidogion Ymneilltuol cyn esgyn i'r pulpud i gyhoeddi'r gair. A barnu'n deg fywyd cymdeithas y 18fed ganrif, yr oedd cwrw'n rhan o ymborth beunyddiol y bobl, yn ddiod yr oes, ac yn ddiod a hoffid yn fawr, a meddwi'n fwy o anhwylustod nag o fai. Yr oedd gwedd o fwyta bara ac yfed gwin, hyd yn oed ar gymundeb yr Eglwys. Elai'r offeiriaid i'r tafarnau yn ol eu dyletswydd, ond disgwylid iddynt yno roddi esiampl dda o gymedroldeb. Dylem gofio safon foesol oes hyd yn oed wrth feirniadu beiau offeiriaid, a goddef iddynt bethau goddefedig eu hamseroedd. Iberiad bychan oedd Goronwy, ond heb lawer ynddo o gyfriniaeth bruddfwyn y llwyth gwannaidd hwnnw. Tymer yr amgylchiadau oedd tymer ei fywyd, yn llawen yn yr hindda, ac yn brudd yn y ddrycin. Canodd hiraeth ei galon yn odlau gogoneddus, a rhedodd ei ddigalondid yn ffrydiau chwerw i actau anwadal ei fywyd. Y mae salmau dyn yn adlewyrchu ei fywyd, a phrofiad dyn yw ei esboniad arno ei hun.

Dyn bychan oedd Goronwy, a dylem gofio hynny wrth farnu ei fywyd, a phwyso peth ar ei dymer wrth bwysau ei gorff. Dyma dystiolaeth y Morrisiaid am ei faint,

"Mi wrantaf na wnaeth Esgob Bangor ddim er y bardd bach, lle da yw disgwyl." Cyf. i., tud 381.

"A ddarfu'r gwaed ffromwyllt ffrydiaw allan drwy droed y Llew ac ynte ddyfod atto ei hun a maddeu gwendid yr Oronwy? Os do, nid hwyrach iddo ymgoleddu ychydig ar ei waith o ac eraill feirdd, ie, a dodi cennad i'w farddoniaeth ei hun daring tan do unto ar eiddo'r Bychanfardd." Cyf. ii., tud. 91.

Pan aeth i Walton tynnodd ddarlun doniol o'r offeiriad a'i was newydd, un yn brasgamu, a'r llall yn mangamu o'r ystafell wisgo i gymdogaeth y ddesg a'r pulpud, a medraf feddwl am yr addolwyr yn colli eu moesau eglwys wrth gymharu maint y llongau a garient iddynt ymborth y wlad bell,

"Climmach o ddyn amrosgo ydyw-garan anfaintunaidd—afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled Arthur, anhygoel, ac wynepryd llew, neu ryw faint erchyllach, a'i drem arwguch yn tolcio ym mhen pob chwedl ddigrif, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affrica. Yr oedd yn 'swil gennyf ddoe wrth fyned i'r Eglwys yn ein gynau duon fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bâd ar ol llong." Llythyrau Goronwy Owen, Arg. Liverpool, tud. 37.

Wrth reswm, bardd a dynnodd y darlun dirodres hwn, nid yw yn waeth o hynny. Dywedir yn gadarn heddyw, y medrai Goronwy ganu ffeithiau barddonol, ac mai Calan barddonol oedd Calan ei eni. Credaf, er hynny, mai darlun o Mr. Brooke, ei noddydd yn Walton, yw y darlun direidus. Canodd ei hun am faint ei gorff yn " Arwyrain y Nennawr,"—

"A gwiw faint fy holl gyfoeth,
Yw lleufer dydd, a llyfr doeth,
A phen na ffolai benyw
Calon iach a chorff bach byw."

Yn y Gwyliedydd, Llyfr vii., tud. 120, dywedir mai Dyn bychan hardd, bywiog, gwalltddu oedd ef." Pa fodd bynnag, dyna ddigon o dystiolaeth ddiamwys ymlaid, mai gwr bychan o gorff oedd yr anfarwol Oronwy. Daw adeg, yng Nghymru, meddaf eto, pan gymer eneideg ei rhan ym meirniadaeth y wlad, a hi a esbonia farddoniaeth Goronwy yng nghysylltiadau ei fywyd. Dyna'r amser, ac nid cyn hynny, y gwelir ef yn ei oleu priod ei hun.

Bywyd bychan oedd bywyd Goronwy, er ei ysgolheigtod mawr, a'i awen graff. Ni welodd nemor ar fywyd ym Mon, dim ond ei ymylon main, a'r edafedd bron yn unlliw. Cefnen fel hen gomin oedd Rhosfawr, heb harddwch arni na graen; ond yr oedd Llanallgo'n well darn o gymdeithas, a Moelfre'n gartre pyscotwyr. Ni welodd yn yr ysgol a'r coleg, hyd yn oed yn Rhydychain, ond dysgeidiaeth bywyd hen a direidi bywyd ieuanc. Yn wir, anhawdd oedd cael hyd i gymdeithas yn ei amser, pawb yn byw yn ei helynt ei hun, a bron na ddywedaf, mai gwŷr y gler oedd ei phroffwydi. Ni welid cymdeithas yn ei ddydd ef yn gwenu a gwgu yn y newyddiadur, ni chipid hi ar ei heistedd am gannoedd o filltiroedd yn y tren, ac ni wyddai ddim am y mil myrdd mariannau a godwyd dan ei sawdl gan ddiwylliant diweddar. Ni welaf, ond olion encilion ar fywyd Goronwy. Astudiwch ef, a chwi a welwch ynddo ddeunydd arweinydd cenedl o gaethiwed, arweinydd gwerin tan gamp. Chwig ydoedd, a gwr na roddai ei gap i lawr i neb, deled a ddelo, costied a gostio. Ar adegau 'roedd yn wresog fel fflam, elai i'r eithafion yn ei ddig, a thorrai'r llechi yn ganddryll. Bu'n byw ar ymylon Croesoswallt, yn gweinidogaethu a chadw ysgol, ond hyd y gwelaf, ni adawodd ol ei law ar fywyd y dref. Aeth i Walton, Liverpool, a man yn y wlad o fewn rhyw bedair milltir i'r dref oedd Walton 'radeg honno. Ni soniodd nemor am ei swydd yno chwaith. Cadwai ysgol, cyfansoddai bregethau, ac ymwelai ambell dro a'r bobl. Nid oedd gan ei enaid flas ar gymdeithas yr estroniaid. Dyma ei brofiad chwithig,-" Nid yw y bobl y ffordd yma, hyd y gwelaf fi, ond un radd uwchlaw Hottentots; rhyw greaduriaid anfoesol, didoriad " (Llythyrau Goronwy Owen, tud. 37). Yn Llundain yn unig y gwelodd fyd a bywyd, ac yno, er ei ynni ffraeth, y dangosodd yn eglur na fedrai gerdded yn nillad Saul. Yr oedd yn rhy gynefin a rhyddid dirodres i fedru tywyso ei hun ymhlith y rhodresgar, dibrisiodd werth gwen osod," a methodd ddefnyddio ei hun i'r fantais oreu iddo ei hun. A ddinistriwyd ef gan gwrteisrwydd ei farn? A ydoedd ef gwrtais hyd oni chynhyrfid ei natur i ferw? Goronwy y bardd ydoedd a Goronwy'r ysgolor. Dyfnder ac uchter di led ydoedd. Gwell yw bywyd yn ymestyn o Ddwyrain i Orllewin ar hyd ffordd y goleuni, na bywyd yn esgyn hyd y ser, ond yn fywyd cul.

Medrai ganu'n wych pan yn hoglanc nwyfus, cyn deall am y drefn i gyflogi'r awen i ennill ei thamaid, cyn teimlo ei hun yn ei digio, ac yn gwylltio'r golomen i ffwrdd. Ond mewn amser byr, rhwng 1752 a 1758 y canodd ei ganau bron i gyd. Canodd i bersonau fel ar ddamwain, a chanodd agwedd fydol eu bywyd yn bennaf. Deallodd Shakspeare ddadleuon enaid oes y Dadeni. Clywodd Williams, cydoeswr â Goronwy, salmau calon oes y Dadeni newydd, ac astudiaeth o enaid a chymeriad ei gymdeithion oedd ei farwnadau. Ni chanodd Goronwy i gyfriniaeth calon cymdeithas. Canodd i Fon ag enaid y gân anfarwol, ond yr oedd mwy o ramant yn enaid yr eneth fach a adawodd ar ei ol yn Walton nag oedd yn wyneb mau donnog Mon o Benmon i ben Cor Cybi. Bu agos iddo yntau deimlo hynny, pan ysgrifennodd,—"Mae fy holl dylwyth i yma bod y pen, ond fy merch fach a fynnai aros ym mynwent Walton, o fewn deurwd neu dri at y fan y ganwyd hi." Oronwy, nid ysgrifennaist a dy law ddim tlysach. Onid yw deigryn naturiol o galon dyner tad yn hardd? Paham na chenaist ei marwnad yn yr un dull syml. Nid gweddus gwisgo plant yn nillad hen oesau, na galaru amdanynt yng ngeiriau anarfer geiriaduron.

Ro Wen. O. GAIANYDD WILLIAMS.

Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.