Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Yr Eisteddfod
Gwedd
← Y Llwynog a'r Fran | Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 Caniadau gan Richard Davies (Mynyddog) Caniadau |
Dydd Gwyl Dewi → |
YR EISTEDDFOD
OS yw ein brodyr hwnt i'r Clawdd
Am hel a dal llwynogod,
Pam na chawn ninnau hedd a nawdd
I gynnal pwt o 'Steddfod ?
Os ydynt hwy yn teimlo blas
Ar redeg hen geffylau,
Pam na chawn ninnau redeg râs
I weld cyflymdra pennau ?
Cadwn yr Eisteddfod,
Parchwn yr Eisteddfod,
I gadw'r hen Gymraeg yn fyw,
Does dim yn well na 'Steddfod.
Daw rhai i'r 'Steddfod draw o bell
I ennill y gwobrwyon,
Daw ereill yno i drin eu gwell,
A gwneuthur trwynau surion;
Mae'n ddigon drwg ar lawer ffrynd
Sy'n myned i feirniadu,
Ond dyn a helpo'r sawl sy'n mynd
Yn feirniad ar y canu !
Cadwn yr Eisteddfod,
Diwygiwn yr Eisteddfod,
A chadwn bob rhyw gynen gâs
Tu allan i'r Eisteddfod.