Gwaith Alun/Cathl yr Eos

Oddi ar Wicidestun
At Manor Deifi Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Abad-dy Tintern


CATHL I'R EOS.

Pan guddio nos ein daear gu
O dan ei du adenydd,
Y clywir dy delori mwyn,
A chôr y llwyn yn llonydd;
Ac os bydd pigyn dan dy fron
Yn peri i'th galon guro,
Ni wnai, nes torro'r wawrddydd hael,
Ond canu a gadael iddo.

A thebyg it' yw'r feinir wâr
Sydd gymar gwell na gemau,
Er cilio haul, a hulio bro
A miloedd o gymylau;
Pan dawo holl gysurwyr dydd,
Hi lyna yn ffyddlonaf;
Yn nyfnder nos o boen a thrais
Y dyry lais felusaf.

Er dichon fod ei chalon wan
Yn delwi dan y dulid,
Ni chwyna, i flino'i hanwyl rai,—
Ei gwên a guddia'i gofid
Ni pheidia'i chân trwy ddunos faith,
Nes gweled gobaith goleu
Yn t'wynu, megys llygad aur,
Trwy bur amrantau'r boreu.


Nodiadau[golygu]