Gwaith Alun/Cymdeithas Caer
← Angau | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
Dau Englyn Priodas → |
CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON
Boed llwydd, mewn pob dull addas,—a chynnydd
I'ch enwog Gymdeithas;
Heb stwr, na chynnwr, na châs—
Geni beirdd heirdd fo'i hurddas.
Bu gannoedd drwy bob gweniaith,—addefent,
Am ddifa'r Omeriaith;
Aent hwy i lawr i fynwent laith—
I fyny safai'r fwyn-iaith.
Heddyw gwelaf na faidd gelyn—er gwŷn,
Roi gair yn ei herbyn;
A dolef gref sy'n dilyn,
"A lwyddo Duw, ni ludd dyn."
Cur llawer fu Caerlleon,—y gw'radwydd
Sy'n gwrido hanesion;
Am groesi'r Clawdd hir i hon,
Brethid calonnau Brython.
'Nawr Cymry gant wisgant wên,
Chwarddu gânt a cherddi gwin,
Ceir bri, a chwmni, a chân,
O fewn Caer heb ofn y cwn.
Byw undeb, gyda bendith,—a daenir
O'ch doniawl athrylith
Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith
I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith.