Gwaith Alun/Gŵyl Ddewi
← Dafydd Ionawr | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
Eisteddfod y Wyddgrug → |
GWYL DDEWI
Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823.
Tôn,—"Ar hyd y Nos."
Trystio arfau tros y terfyn,
Corn yn deffro cawri y dyffryn,—
Tanio celloedd—gwaed yn colli,
Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri
I'r ael dduo ar Wyl Ddewi,
Ar hyd y nos.
Heddyw darfu ystryw estron,
Ellyll hwyr, a chyllill hirion;
Saeson fu'n elynion inni,
Heno gwisgant genin gwisgi—
Law-law'n dawel Wyl ein Dewi,
Ar hyd y nos.
Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan
Rhwygo awyr â goroian—
Swn telynau—adsain llethri—
O Blumlumon i Eryri—
Gwalia ddywed—'Daeth Gwyl Ddewi,'
Ar hyd y wlad.
Felly ninnau rhoddwn fonllef
Peraidd lais ac adlais cydlef;
Rhaid i'r galon wirion oeri
Cyn'r anghofiwn wlad ein geni,
Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,
Ar hyd y wlad.
CAERWYS
"Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt."