Neidio i'r cynnwys

Gwaith Alun/Genedigaeth Iorwerth II

Oddi ar Wicidestun
Dau Englyn Priodas Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrug


GENEDIGAETH IORWERTH II

Llais llid Iorwerth

 lywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd
Ryw swn oersyn o arswyd!
Gorthaw'r donn, cerdda'n llonydd,
Ust! y ffrwd,—pa sibrwd sydd?
O Ruddlan daw'r ireiddlef
Ar ael groch yr awel gref;
Geiriau yr euog Iorwerth,
O 'stafell y Castell certh;
Bryd a chorff yn ddiorffwys,—
Hunan-ymddiddan yn ddwys
Clywch, o'r llys mewn dyrys dôn,
Draw'n sisial deyrn y Saeson,—
"Pa uffernol gamp ffyrnig?
A pha ryw aidd dewraidd dig?
Pa wrolwymp rialyd
Sy'n greddfu trwy Gymru 'gyd?
Bloeddiant, a llefant rhag llid,
Gawrwaeddant am deg ryddid,—
'Doed chwerwder, blinder, i blaid
Ystryw anwar estroniaid;
Ein gwlad, a'n ffel wehelyth,—
Hyd Nef,' yw eu bonllef byth;
Ac adsain main y mynydd,—
Och o'u swn!—yn gasach sydd;
'Ein gwlad lân amhrisiadwy,'
Er neb, yw eu hateb hwy.

"Pa les yw fod im' glod glân
Am arswydo'r mawr Sawdan,—
Pylu asteilch Palestin,
Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;
Troi Chalon wron i weryd,

Ie, curo beilch wyr y byd,—
Os Gwalia wen,—heb bennaeth,
A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,—
Heb fur prawf,—heb farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,—
A ymheria fy mawr-rwysg,
Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg?
Er cweryl gyda'r cawri,
A lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na'm harfeddyd,
Ond gwatwor tra byddo'r byd.

"Ha! ymrwyfaf am ryfel,
O'm plaid llu o ddiafliaid ddêl
Trowch ati'r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.


"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;
Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;
Oes, gwerth, i hyn aberthaf,—gwânu hon
Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.
"Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo'n well?

Dichell Iorwerth.

"Ha! ha! Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde?
Oferedd, am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,
Arw aelgerth, draw i'r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr, sef y creigiau hyll.


Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,—
Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?
Pa gais? pa ddyfais ddifêth
Gaiff y budd,—ac â pha beth?

"'Nawr cefais a wna r cyfan,—
Mae'r meddwl diddwl ar dân;
Fy nghalon drwy 'nwyfron naid,
A llawenydd ei llonaid;
Gwnaf Gymru uchel elwch,
I blygu, a llyfu'r llwch—
I wyr fy llys, pa'nd hyspyswn
Wiw eiriau teg y bwriad hwn?"

A chanu'r gloch a wnai'r Glyw,
Ei ddiddig was a ddeddyw,—
"Fy ngwas, nac aros, dos di,
A rhed," eb ei Fawrhydi,—
"Galw ar fyrr fy Mreyron,
Clifford hoew, Caerloew lon;
Mortimer yn funer fo,
A Warren, un diwyro."

Deuent, ymostyngent hwy
I'w trethawr, at y trothwy
O flaen gorsedd felenwawr
Safai, anerchai hwy'n awr,—

"Cyfeillion bron eich Brenin,
A'i ategau'r blwyddau blin,—
Galwyd chwi at eich gilydd
Am fater ar fyrder fydd;
Gwyddoch, wrth eu hagweddau,
Fod llu holl Gymru'n nacau
Ymostwng, er dim ystyr,
I'm hiau o gylch gyddfau'u gwyr;

Ni wna gair teg na garw,—
Gwên, na bâr,—llachar, na llw,
Ennill eu serch i'm perchi,
Na'u clod i'm hawdurdod i
Ni fynnant Bôr, cynnor cain,
Ond o honynt eu hunain;
Ganedig bendefig da,
O'u lluoedd hwy a'u llywia—
Ond cefais, dyfeisiais fodd,
O dan drais, i'w dwyn drosodd;
Ac i mi gwnant roddi rhaith,
Ac afraid pellach cyfraith;
Rhoi llyffeithair â gair gaf,—
Gair Gwalia gywir goeliaf—
Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon
Er lliaws, dorri llwon
Elinôr, lawen araf,
Mewn amhorth yn gymorth gaf;
Mererid i'm Mreyron
I'w cais pur trwy'r antur hon."

Traethai'r Brenin, gerwin, gau,
Ar redeg ei fwriadau;
A'r Cyngor wnai glodfori,
Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,
A'i ddihafal rialyd,
Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.

Yna'r arglwyddi unol
A gilient, nesent yn ol,
Gan grymu pen i'w Brenin,
Laig ei glod, a phlygu glin.

Ufudd-dod y Frenhines

E geisiai frys negesydd
Yn barod, cyn darfod dydd,—

A gyrrai, ar farch gorwych,
I'r brif-ddinas y gwas gwych,
A gofynaig i'w Fanon,
A gair teg am gariad hon
Y lonwech bur Elinawr
Serchog, oedd yn feichiog fawr;
Gofynnai a hwyliai hon,
Gryn yrfa, i Gaernarfon,
Ar fyrder, fod mater mawr
I'w ddisgwyl y dydd esgawr.

O fodd ufuddhaodd hon,
Iach enaid, heb achwynion;
Dechreuai'r faith daith, 'run dydd,
Mewn awch, a hi'n min echwydd;
Gwawl lloer, mewn duoer dywydd,
A'i t'wysai pan darfai dydd;
Oer y cai lawer cawod,
Cenllysg yn gymysg ag ôd;
Anturiai, rhodiai er hyn,
Trwy Gwalia, tir y gelyn;
Er ymgasgl bâr o'i hamgylch,
A'i chell yn fflamiau o'i chylch,—
Ni wnai hon ddigalonni,
Mor der oedd ei hyder hi;
(Ow! ow! 'n wir beri'r bwriad
Tra glew, er dinistrio gwlad)—
Daeth, wrth deithio o fro i fryn,
Y faith yrfa i'w therfyn.

A'r deyrnes gynnes, heb gêl
Yn ddiegwan ddiogel;
Rhoes Iorwerth eres warant,—
Ae rhingyll i gestyll, gant,
Am alw cydymweliad
Brenin ac arglwyddi'n gwlad:

Rhuddlan oedd y fan i fod
Hygof erfai gyfarfod;
I dorri rhwystrau dyrys
Y gelwid, llunid y llys—
D'ai'r eurfig bendefigion
O amryw le 'Nghymru lon;
Yno y daeth yn y dydd,
Gwalia o gwrr bwygilydd.

Ond oedai Edward wedyn
Eu galw i'r llys, hysbys hyn;
Disgwyliai â dwys galon,—
Heb gau ei amrantau 'mron,
I'w fanon wirion, arab,
Ar awr ferth, esgor ar fab.

Harddai y lle—rhoi fwrdd llawn,
A gosod rhyw esgusiawn;
Ond er yr holl arfolli
Holl blaid ein penaethiaid ni
Ni charent y gwych aeron—
Y dawnsiau a'r llefau llon
Y morfa llwm a hirfaith,
Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith,
A myfyrient am fawrion
Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,—
Y glewion, enwogion wyr
Laddwyd, a'r prif luyddwyr
Rhodient pan godai'r hedydd
Fel hyn, hyd i derfyn dydd;
A'u dyddiau oll fel diddim,
Synnent, ond ni ddwedent ddim
Wedi egwyl ddisgwyliad,
O fewn eu bron daeth ofn brad,—
Swn, fal rhwng sisial a son,
"Llawrudd a chyllill hirion;"

'Roedd gwaelod y trallod trwch,
I wyr Gwalia'n ddirgelwch.

Geni Tywysog.

Wele! o'r diwedd, ar ol hir dewi,
Deuai i Iorwerth genadwri
O Gaersalwg,—gwnai ei groesholi,—
Yna ei holl anian oedd yn llonni
Hyd grechwen, pan glywodd eni—bachgen
Ag aur wialen a gai reoli.

Ac yna a'i udganwr
A'i gorn teg i gern y tŵr
Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith,
Ar heng hirfaith i ddod i'r gynghorfa.

Pob rhyw gadr waladr oedd
Yn esgud yn ei wisgoedd;
Distain wnai iddynt eiste
Bob yn lwyth—bawb yn ei le
Deuai'r Ynad dirinwedd,
Mewn parchus, arswydus wedd;
Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,
Coron ar y coryn oedd;
A gwyneb yn llawn gweniaith,
O drefn y dechreuai draith.

"Fy neges, brif enwogion,
A glywiau teg y wlad hon,—
Nid ydyw i wneyd adwyth,
Dwyn loesion llymion yn llwyth,—
I fygwth clwyf a gwaith cledd,
Nac i lunio celanedd;
Ond o fwriad adferu
Eich hyfawl barch fel y bu;

Cymru ben baladr ffladr fflwch
Heddyw sydd eisiau heddwch;
Rhoddi Llywiawdwr addwyn,
Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn;
Un na's trina es'roniaith,
Na swn gwag Seisonig iaith;
Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd,
Dull Sais, na'i falais, ni fedd;
Addefir ef yn ddifai,—
Ni ŵyr un fod arno fai
Yn fwynaidd gwybod fynnwn,
Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?"

* * * * *

Cydunent, atebent hwy,—
"Ymweledydd mawladwy,
I'n cenedl rhyw chwedl go chwith
Ydyw geiriau digyrrith;
Cymru wech,—nis cymrai hon
Lyw o astrus law estron;
Ond tynged a brwnt angen,
A gwae ei phobl, blyga'i phen
Llîn ein llon D'wysogion sydd
'Leni mewn daear lonydd
Rho di'r llyw cadarn arnom
A dedwydd beunydd y b'om—
Enwa 'nawr, er union waith,
Y gwr del wisga'r dalaith,
'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom,
Na thyrr ing fyth awr rhyngom
Ie, tyngwn, at angau,
Yn bur i hwn gwnawn barhau."

Fulion! ni wyddent falais,
Dichellion, na swynion Sais.

Dwedai'r blin Frenin ar frys—
"Felly ces fy ewyllys,
Doe y daeth, megis saeth, son
Yn erfai o Gaernarfon,
Fod mab rydd wynfyd i mi,
Nawdd anwyl, newydd eni;
A hwn fydd eich llywydd llon,
A'ch T'wysog enwog union
Dal a wnaf, nes delo'n wr,
Drethi eich llywodraethwr;
Bellach, y bydd sarllach Sais,

Mawr ddilwrf Gymry ddeliais."
Gwelwent, a safent yn syn,
Ymhleth ddiachreth ddychryn;
A phob boch oedd yn brochi,—
Tro'i brad aml lygad i li.

Araeth Madog.

Ebai Madog, enwog wr,—
"Ha! rymusaf ormeswr!
Tybiais falch wawrwalch lle'r êl,
Wir awch, yn wr rhy uchel,
I lochi brad dan lech bron,
A chahirion i ddichellion
Ond ni wnei gu Gymru'n gaeth,
Bro dirion, â bradwriaeth;
Ni phryni serch prid, didwyll,
Ac odiaeth hon, gyda thwyll
Os gall dy frad ddwyn gwlad glau
I gur a chwerw garcharau,—
Nis gall dy ewin-gall wau
Rhwym a ddalio'r meddyliau

A oedd cochi perthi'n pau,
A llawruddio'n holl raddau,—
Ein llyfrau, a'n gotau gwaith,—
A'n haneddau ni'n oddaith,
Y teryll aer,—torri llw,
A'r brad ger Aberedw,—


Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon,
I ddangaws, i araws i oes wyrion,
Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion
Mai marwor meryw yw ystryw estron?
Ond am y wlad, deg-wlad hon,—gwybydd di,
Rhaid iti ei cholli, er dichellion.


"Os yw breg gwgus, a braw,
Fal wedi dal ein dwylaw,
Daw ail gynnwrf, dilwrf da,
I drigolion dewr Gwalia;
Codwn, arfogwn fagad,
O wrol wych wyr y wlad;
Mewn bâr y bonllefa'r llu
'Camrwysg ni oddef Cymru,—
Rhi o'n huchel wehelyth,
Cymro boed i'r Cymry byth!'
Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin
Iau ar warr un o'r werin!
Daw'r telynau, mwythau myg,
Ddewr eu hwyl, oddiar helyg;
Rhed awen, er id wahardd,
Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd;
Gwnant glymau a rhwymau rhom,
Enynnant y tân ynnom;
Dibrin pawb oll dadebrant,—
Heb ochel, i ryfel 'r ant;

A'n mynwes yn lloches llid,
Ein harwyddair fydd 'Rhyddid!'

"Ag arfau ni wna'n gorfod
Tra'n creigiau a'n bylchau'n bod;
Cariwn mewn cof trwy'r cweryl,
Y'mhob bwlch, am Thermopyl;
Gwnawn weunydd a llwynydd llon,
Mawr hwythau, fel Marathon;
Yn benaf llefwn beunydd,—
'Marw neu roi Cymru'n rhydd?'

"Os colli'n gwlad, anfad wyd,
O'r diwedd dan ruddfan raid,—
Yn lle trefn, cei pob lle troed,
Wedi ei gochi â'n gwaed;
Trenga'n meibion dewrion dig,
A llawryf am y llurig.


"Yn enw Crist eneiniog—ymroddaf
Am ryddid ardderchog;
A'r un Crist fu ar bren crôg,
Ni ymedy a Madog."


E daw ar hyn,—d'ai ar ol
Ryw ddistawrwydd ystyriol.
Ac Iorwerth, ar y geiriau,
Fel llew dig ffyrnig mewn ffau;
Malais y Sais, echrys wg,
A welid yn ei olwg.


Tyb Euraid Ap Ifor.

O ryw fuddiol arfeddyd,—rhoi'n rhagor
Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,—
"Hyf agwrdd bendefigion,
Rhy brysur yw'r antur hon;

Ar furiau tref, ai rhaid trin
Anhoff astalch a ffestin?
Mae llid yn fy mron hynaws,
At Saeson, a'u troion traws;
Ond serch, a glywserch i'm gwlad,
O'm calon a rwyddlon red;
Na ato fyth, etwa fod
Neint hon yn gochion i gyd,—
Arafwn,—o'r tro rhyfedd
Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd;
E ddaw ergyd ddiwyrgam,
Lawn cur, i ddial ein cam;
Ac hefyd dylid cofio,—
Er prudded, trymed y tro,—
Er angeu'r gair fu rhyngom,
'R amodau, rhwymau fu rho'm
Pan roddo Gymro y gair,
Hwnnw erys yn wir-air;
Ei air fydd, beunydd heb ball,
Yn wir, fel llw un arall
Ein hynys hon i estron aeth,
A chyfan o'n gwiw uchafiaeth;
Ond ni throes awch loes, na chledd,
Erioed mo ein hanrhydedd;
A'n hurddas a wnawn arddel,
Y dydd hwn, a doed a ddêl
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid,
Ar Dduw a'i wir addewid.
Duw a'n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd, o'r hadledd hwn;
Heddyw, oedwn ddywedyd
Ein barn, yn gadarn i gyd;
Profwn beth dd'wed ein prif-fardd,—
Gwir iawn bwyll yw geiriau'n bardd;—

—————————————

CASTELL CONWY

Heb elynion o Gonwy
O tewi maes i'w hofni mwy."

—————————————

Pa lwyddiant, yn nhŷb Bleddyn,
A ddigwydd o herwydd hyn?"

Amneidient mewn munudyn
Ar yr ethol ddoniol ddyn,—
Yna, a phwys ar ben ei ffon,
Y gwelid y gwr gwiwlon


Ei farf fel glân arian oedd,—mewn urddas,
Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd;
Yn null beirdd, enillai barch,—ar bob peth
E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.


Proffwydoliaeth Bleddyn

D'wedai, agorai'r gwir-air,—
"Clyw frenin gerwin, y gair!
'R hyn ddaw, trwy fy llaw i'r llŷs,
Duw y dynged a'i dengys;
Am ennyn aer mwy na neb,
Troi a chynnal trychineb,
Gwneyd ochain yn seilfain sedd,—
Rhoi dy wersyll ar d'orsedd!
Am ddifrodi, llosgi, lladd,
Brad amlwg, a brwd ymladd;
A rhoi bro, mewn taro tynn,
I wylo am Lywelyn—
(Iachawdwr a braich ydoedd,
Ac anadl ein cenedl oedd;)
Fel y rhoist gûr, mesur maith,
Y telir i ti eilwaith.

O! trochaist lawryf mewn trwch-waed,
Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed.
Hwn geraist yn lle gwirawd,—
Bleiddiaid sy'n ffoi rhag cnoi cnawd.

Y mae maith och mam a thad,
Gwaedd a chur gweddw a chariad,—
A main lle mae ymenydd
Llawer dewr, a gollai'r dydd,—
Temlau, ac aneddau'n wag,
Yn rhoi manwl air mynag,—
I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,—
Iddo gael buddugoliaeth
Ond llion mawrion am hyn
O ddialedd a ddilyn.


"Awr na feddyli, daw'r nef ddialydd,
Dy waed oera ar dywod y Werydd;
Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd,
Hon a'th boena—gyrr ddrain i'th obenydd;
Caiff Brython gwirion dan gerydd—fyw'n llon,
Eu muriau'n llawnion, a marw'n llonydd.


"A gwaeth nac oll a wnaethost,
Mewn du fâr mynni dy fost,—
Gwenaist pan gwelaist galon
Wiw a phur ar waew-ffon!
Ti ddigred, ni roist ddeigryn
Yn y lle yr wylwyd llyn!
Llanwaist gron goron â gwaed,
Ac arall ŷf y gorwaed!
Clyw'n sŵn!—mwd Bercley'n seinio, [1]
Dychryn i'w ganlyn ac O!
Marwol loesion bron Brenin,
Tan grafangau bleiddiau blin.
Hyfryd dduwiesau Hafren,
Pan glywant a wisgant wên.

Daw blwyddau llid a bloeddiad,
Du hin, ar warthaf dy had!
Clyw! ddolefau, briwiau bron,
O'r Tŵr Gwyn[2] mae'r taer gwynion;
Dy hilion, mewn du alaeth,
O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth!
A mynych gwna cromeni
Y Tŵr cras watwor eu cri
Ni adewir o'r diwedd
Wr o dy sil ar dy sedd.


"Ha! ha! 'r dwyrain egyr ei dorau,—
Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau
Creigydd, moelydd, a du gymylau?
Nage, gwawrddydd glân, eirian oriau,
Wiwber anwyl sydd ar y bryniau;
Gwelwch Gymru ar fynydd golau,
A'n iach wyrion o'i chylch yn chwarau,
(Rhos sy' o danynt ar sidanau,)
Hust! ust! ust!—mae'n dyfod i'm clustiau,
Gathl enwog oddiar ei thelynau,—
Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau,
Yn dorf bloeddiant,—'Wi! darfu blwyddau
Yr ochain anwar a chynhennau;'—
Par y dôn i'm hyspryd innau—roi llam,
Mwy e grychneidia'm gorwych nwydau.


"Daw dyddiau mâd a diddan,
A mawr lwydd i Gymru lân;
Dyddiau bwrcaswyd iddi,
Ar dy ddichell dywell di;
O Dduw Ner daw'r hoewder hwn,
I'n Duw eilchwyl diolchwn

Derfydd amser blyngder blin,
Curaw tymhestlog gerwin.
Daw hinon a daioni
O dy drais, na's tybiaist ti;
Bydd cof mewn gwledd am heddyw,
A chlod am it' fod yn fyw
Iach amrant Lloegr a Chymru,
Daw'r ddwy-wlad mewn cariad cu;
Yna'n y ddwy mwy ni ddêl,
I'w trefi helynt rhyfel;
Un llys fydd drwy'n hynys hon,
Una'i gwyr dan un goron;
Unant nerth, rhag rhyferthwy,
Un reddf ac un ddeddf i'r ddwy;
Un Duw arnynt, un deyrnas,
Un lluoedd, un floedd, un flas
Gwelaf Frython,[3]—'rwy'n llonni,
Yn eistedd ar d'orsedd di!
Ac o ystlys a gwestle,
Y gyllell hir gyll ei lle
A o gof ymladdau gant,
Eu hing hefyd anghofiant;
Cant gyd-fwynhau breintiau braf,
Law-law i'r genedl olaf
Lle gwelwyd twyll a galar,
Echrys boen, a chroes a bâr,—
Rhinwedd welir a hinon,
Gwenau, a bonllefau llon;
Rhyfela dry'n orfoledd,
Screchiadau yn hymnau hedd.
Ar eirian fro Eryri,
Ei chreigiau a'i hochrau hi,—

Lle mae trigfa'r bâr yn bod,
A dwyn arfau dan orfod;—
Lle gwelir llu y gelyn,
A'u bloedd hell, y blwyddau hyn,—
Anhirion elynion lu,
A'u tariannau'n terwynu;—
Anianawl serch yn ennyn,
A ffoi at y gwaew-ffyn;—
Tyf breilos, a rhos di-ri',
Ar hon, a'r loew lili;
Eos fydd bob dydd yn dod
I fryn, yn lle cigfranod


"Ar y llethri a'r tyli telaid,
Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid,
Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid,
Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid,
Llamsach ŵyn bach yn ddibaid,—mor ddifyr,
Chwim a mygyr gylch y mamogiaid.


"Lle codwyd bwyeill cedyrn,
Bydd twmpathau chwarau chwyrn;
Dawnsio pan y darffo y dydd,
A thelyn ar frith ddolydd
I'n hynys, pan ei hunir,
Daw tawelwch, heddwch hir;
A chywir heddwch a rhyddid
Wneir y dydd hwnnw yn aur did;
Ar wddwf Cymru rhoddir
Y gadwen hon i gadw'n hir;
Y drefn gaeth wriogaethol,
Mwya'i nerth, a i ddim yn ol;
Bydd un gyfraith, 'run rhaith rhawg,
I lwyth isel, a Th'wysawg
Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid,
Ri'r gwlith, yn eu plith o'u plaid;

Colofnau y breintiau bras,
A chadarn-weilch y deyrnas;
Ar bob mater a cherydd,
Rheithwyr yn farnwyr a fydd
'R un fro wnaeth gwyar yn frith,
O dda gynnyrch ddwg wenith;
Cod yr amaeth, cydia'i rwymau,
Cain reolau, cyn yr haulwen;
Deil waith odiaeth, dôl a thidau,
Iau a bachau lle bo ychen;
Teifl yr hadau,—llusga'r ogau,
Egyr ddorau gwâr ddaearen,
Er cael cnydiau, yn eu prydiau,
Rhag i eisiau rwygo asen.


"Esmwytho nos amaethydd,
Heddwch, diofalwch fydd,—
Y daw gelyn digwilydd
I'r berllan, na'r ydlan rydd;
Ac ni raid braw daw un dydd,
Ryw ormeswr i'r maesydd,
Neu Fodur cryf i fedi
'Nol anferth drafferth i drin
Tybia'i wlad yn Baradwys,—
Dyry gainc wrth dorri'i gwys
A swch fuasai awchus
Gleddyf un dewr hyf di-rus;
Ymaith ar unwaith yr a,
Uwch ei boen y chwibiana.


"Ac anterth cymer gyntun,
Heb i ofal atal hun;
O hyd yn ddiwyd ddiarf
Heb fod dan orfod dwyn arf

Heb elynion o Gonwy
O fewn maes i'w hofni mwy.

"A thew ffrwyth âr
Gwnna'n gynnar;
Daw mawnog, gallt, a mynydd,
A bronydd, yn dir braenar.
"Y ddwy wlad cyd addolant,
Cyd foli'r Iôn union wnant;
Rhont glodydd i'w Dofydd da,
Law-law mewn Haleluia

"Yna y tyf yn y tir
Bob helaeth wybodaeth bur,
O ddirgelion meithion môr,
Daear, a'i sail, hyd i'r sêr.

"Helicon pob ffynnon ffel,
Parnassus pob bryn isel
Eu rhyfedd faner hefyd
Achuba, orchfyga fyd;
O Gressi'r maes hagr asw,
I antur lân Waterlw
Ac y diwrnod cadarnwych
Bydd y deyrnas addas wych
Heb ei bath, heibio i bob
Un arall o fewn Ewrob;
Rheola mewn rhialyd
O begwn i begwn byd."


Gyda bloedd, gweda Bleddyn,
"Y nefol Iôr wna fel hyn,
Foreu tawel o frad tywyll,
A llewyrcha o'r ddichell erchyll
Molwn Dduw y Nef, gan sefyll,
Yna pawb a awn i'n pebyll."

Nodiadau

[golygu]
  1. Cyfeiriad at farwolaeth echrydus Iorwerth II. Cym. The Bard, Gray.
  2. Man y llofruddiwyd llawer o hil Edward
  3. Harri VII., buddugwr Bosworth.