Gwaith Ann Griffiths/Llythyr 3

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 2 Gwaith Ann Griffiths

gan Ann Griffiths

Llythyr 4

Daw amryw ddalennau o hymnau a phenhillion, ac yna y pum llythyr sy'n canlyn.

[Copi o lythyr a gefais oddiwrth chwaer yn yr Arglwydd.]

GAREDIG FRAWD,—

Cefais hyn o gyfleusdra i ysgrifenu attoch, gan obeithio eich bod yn iach, ac i'ch gwneuthur yn adnabyddus fy mod wedi derbyn eich llythyr gwerthfawr. Mi ddymunwn nad esgeulusech anfon pethau buddiol, gan beidio sylwi ar ein hesgeulusdra ni—am y gwyddoch yr achos—diffyg meddu ar nemawr o werth ei anfon.


Garedig frawd, buasai yn dda genyf eich gweled lawer gwaith mewn cyfyngder meddwl a than gnofeydd ac amheuon am wirionedd yr ymweliadau, a'r datguddiad o Gyfryngwr i ryw raddau, yngwyneb damniol golledig gyflwr. Ac er treio llawer o heolydd, ffaelu dod i ben am fy amcan. Ond heol myfyrdod cefais wers oddiwrthyr hyn oedd chwegrwn Moses yn ei gynghori igosod 60 o flaenoriaid i farnu'r bobl mewn pethau cyffredin, goleu, ond dwyn y pethau mawrion, tywyll, ato ef. Meddyliais fod yn rhaid i fy nghyflwr dryslyd i fyned heibio i wilwyr y caerau a phawb, at Dduw yn unig: Mae'n gysur genyf feddwl am hyn pan fyddo fy nghyflwr dywylla imi a'm brodyr,—mae glir oleu yn llys yr Archoffeiriad. Diolch byth am hyn.

Cefais lawer o bleser wrth fyfyrio am y wraig Seunamees yn neillduo stafell ar y mur i ŵr Duw orphwys pan ddelai heibio, gan osod gwely, bwrdd, stôl, a chanwyllbren. Fe allai fod y wraig hono, gan ei hiraeth am y proffwyd, yn mynych droedio yr ystafell, ac yn cael ei lloni mewn disgwyliad am y gŵr. Ond beth bynnag am hynny, y mae yn gysur calon i gredadyn, yn absenoldeb gwedd wyneb ei Arglwydd, fod y dodrefn ar ol mewn amryw ystyriaethau. Yn un peth, mae arwydd ei fod heb ei roi i fynu. Peth arall, y mae yn loging rhy boeth i ddiafol. Pan ddel y gelyn i mewn fel afon gref yspryd yr Arglwydd a'i hymlyd ef ymaith. Nid all gimmaint a chodi ei ben yn nheml Dduw heb grynu, nag edrych ar ddim o'i mewn ond ar ol ei draed ei hun heb arswydo. Am hynny, llefwn lawer am i'r Yspryd Glân wneud ei gartref yn ein cyflwr.

Garedig frawd, cryn dywyll yw hi yn bresenol ar eglwys y Bont, dan ergydion y byd a gwrthgilwyr. Cefais bleser un noswaith yngwyneb y pethau hyn wrth feddwl beth y mae yr Yspryd Glan yn ei ddweud am dani. Dwy ysgrythyr a fu ar fy meddwl. "Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, o ddinas Duw." "Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn."

Hyn yn bresenol oddiwrth eich chwaer.

ANN THOMAS, Dolwar.